Ym mis Chwefror 2024 cynhaliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn ceisio barn ar sut hoffai trigolion ac ymwelwyr weld Glan Môr Aberafan yn datblygu yn y dyfodol. O ganlyniad, cwblhawyd dros 440 o arolygon a daeth 236 o bobl i sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb i gyfrannu eu syniadau.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrthi ar hyn o bryd yn cynnal sesiynau galw heibio dilynol i amlinellu amrywiaeth o gynigion sydd wedi cael eu llunio ar sail yr ymateb a dderbyniwyd. Bydd y cylch hwn o ymgynghori yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y cynigion a fydd yn mynd ymlaen i Uwchgynllun Glan Môr Aberafan a gaiff ei gyflwyno i gabinet y Cyngor i’w fabwysiadu yn gynnar yn 2025.
Sesiynau galw heibio
Yn y sesiynau hyn, bydd trigolion, a’r rheini sydd â diddordeb yn y glan môr, yn gallu rhoi sylwadau ar gynigion a siarad yn uniongyrchol gydag aelodau o’r tîm sy’n dyfeisio Uwchgynllun newydd Glan Môr Aberafan.
Arolwg ar-lein
Gellir lawrlwytho’r cynigion drafft isod a gellir cyflwyno ymateb trwy arolwg ar-lein.
Bydd yr arolwg yn cau ar 3 Tachwedd 2024.
Lawrlwythiadau
Ariannu
Caiff Uwchgynllun Glan Môr Aberafan ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.