Cyflwynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gais llwyddiannus am gyllid i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cyflwyno buddsoddiad gwerth £7.7 miliwn ym Mhontneddfechan a fydd yn gwneud y canlynol:
- Creu datrysiad parcio parhaol i reoli effaith ymwelwyr ar bentref Pontneddfechan yn well
- Cyflwyno darpariaeth toiledau cyhoeddus newydd a gwell
- Creu siop fferm/gymunedol
- Creu llety ymwelwyr ar raddfa fach
- Gwella diogelwch ffyrdd, y parth cyhoeddus a gwneud gwaith tirweddu
Yn ystod hydref/gaeaf 2023, aeth y Cyngor ati i ymgynghori ar y dyluniadau drafft cychwynnol gyda’r trigolion ym Mhontneddfechan a lluniwyd adroddiad sy’n crynhoi’r adborth a ddaeth i law.
Mae’r Cyngor hefyd wedi llunio ymateb ysgrifenedig ynghylch sut cafodd yr argymhellion eu cynnwys yn y dyluniad terfynol y disgwylir ei gyflwyno mewn cais cynllunio yn y dyfodol agos.
Mae modd lawrlwytho’r adroddiad ymgynghori ac ymateb y Cyngor iddo isod.