Casglu eitemau swmpus
Gallwn drefnu casgliad ar gyfer eitemau gwastraff cartref swmpus fel matresi, soffas, oergelloedd a phoptai.
Sut mae'r casgliad yn gweithio
- Dewiswch ddyddiad casglu pan fyddwch yn trefnu ar-lein
- Mae casgliadau'n dechrau o 6am tan 2:00pm. Rhowch eich eitemau allan i'w casglu'r noson gynt
- Rhaid cadw eitemau yn sych. Os ydych chi'n gadael eitem a allai amsugno dŵr (er enghraifft matres neu soffa), gorchuddiwch nhw Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac efallai na fyddant yn cael eu casglu
- Casgliad wrth ymyl y ffordd yw hwn felly cyflwynwch eitemau o flaen eich eiddo
- Ni all criwiau casglu fynd i mewn i ffin eich eiddo, na’r eiddo ei hun
- Byddwn ond yn casglu eitemau sydd wedi eu rhestru wrth drefnu
- Rhaid i eitemau fod yn rhydd o ysgarthion. Ni fydd unrhyw eitemau a gyflwynir gyda ysgarthion yn cael eu casglu ac ni roddir ad-daliad
- Codir tâl am y gwasanaeth hwn sef £27 am hyd at 7 eitem. Rhaid drefnu a thalu am bob casgliad ymlaen llaw. Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch am y daliad
Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i beidio â chasglu eitemau ychwanegol sydd wedi eu cyflwyno.
Bwrdd a phedair cadair yn cyfrif fel pum eitem
Enghraifft
Mae ffrâm wely, matres, a phenfwrdd yn cyfrif fel tair eitem
Eitemau rydym yn eu casglu
- dodrefn
- setiau teledu a nwyddau trydanol mawr
- carpedi
- cyfarpar gan gynnwys peiriannau golchi, oergelloedd a rhewgelloedd
- offer chwarae - datgysylltwch eitemau mawr fel trampolinau
Mae eitemau'n cael eu hailgylchu / ailddefnyddio lle bo modd.
Eitemau na fyddwn yn eu casglu
- asbestos
- boeleri, poteli nwy neu danciau olew
- gwydr wedi torri
- adeiladu neu wastraff dymchwel – ceginau / ystafelloedd ymolchi
- gwastraff clinigol
- ffenestri a drysau allanol
- o Adeilad Masnachol
- gwastraff gardd
- siediau gardd neu baneli ffensys
- bagiau cyffredinol o sbwriel, e.e. bagiau du
- gwydr/drychau
- gwastraff cartref peryglus
- pianos
- tuniau o baent
- toiledau
- gwastraff masnachol
- teils wal llawr
- baledi pren
Bydd rhai o'r eitemau hyn yn cael eu derbyn gan drigolion yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
Cyn i chi ddechrau
- Dim ond eitemau sydd wedi'u bwcio i mewn bydd yn cael eu casglu.
- Dim ond uchafswm o 7 eitem i bob casgliad y byddwn yn eu codi. Nid gwasanaeth clirio tai yw hyn.
- Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch i dalu.
Gwneud newidiadau neu ganslo.
Gallwch wneud newidiadau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys
- canslo
- newid
- diweddaru'r eitemau i'w casglu
Rhoi eitemau
Os yw'r eitemau mewn cyflwr da efallai y bydd gan rai elusennau ddiddordeb mewn mynd â'r eitemau i'w rhoi i deuluoedd mewn angen. Ein partner elusenol yw Sefydliad Enfys y gellir cysylltu â hwy ar 01639 641631.
Gallwch hefyd gyfrannu i'n Siop Ailddefnyddio, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Llansawel.