Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y gofrestr etholiadol

Rheolir cofrestrau'n lleol gan swyddogion cofrestru. Mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr gyda gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd yn gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

Y gofrestr agored

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Caiff eich enw a'ch cyfeiriad eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai i chi ofyn iddynt gael eu dileu. Nid yw dileu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Mae defnyddwyr y gofrestr agored yn cynnwys:

  • Busnesau sy'n gwirio hunaniaeth a manylion cyfeiriad pobl sy'n gwneud cais am eu gwasanaethau megis yswiriant, llogi nwyddau a rhentu eiddo yn ogystal â phan fyddant yn siopa ar-lein.
  • Elusennau ac asiantaethau gwirfoddol
  • Asiantaethau casglu dyledion
  • Cwmnïau marchnata uniongyrchol
  • Landlordiaid ac asiantiaid gosod
  • Cynghorau lleol wrth nodi preswylwyr a chysylltu â hwy;
  • Cwmnïau cyfeiriaduron ar-lein i helpu defnyddwyr gwefannau i ddod o hyd i bobl, megis wrth aduno ffrindiau a theuluoedd;
  • Sefydliadau sy'n olrhain ac yn nodi buddiolwyr ewyllysiau, pensiynau a pholisïau yswiriant;
  • Cwmnïau'r sector preifat i ddilysu manylion ymgeiswyr swyddi.

Dewiswch i allan o'r gofrestr

Os ydych chi'n cofrestru i bleidleisio ar-lein, gallwch glicio ar y blwch os nad ydych am i'ch enw a'ch cyfeiriad ymddangos ar y gofrestr agored.

Gallwch hefyd newid eich dewis i optio allan ar unrhyw adeg trwy wneud cais i staff cofrestru etholiadol lleol gyda'ch enw, eich cyfeiriad llawn ac oes ydych am gael eich cynnwys neu'ch hepgor o'r gofrestr agored. Gallwch chi wneud hyn trwy ddefnyddio'r ffyrdd canlynol:

  • Ffôn: 01639 763 330
  • E-bost: elections@npt.gov.uk
  • Ysgrifennwch: Swyddog Cofrestru Etholiadol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ