Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Canfasio Blynyddol 2023

Mae'r gyfraith yng Nghymru wedi newid. Gall pobl ifanc 14-16 oed a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru bellach gofrestru i bleidleisio.

Mae'n ofynnol i ni gadw’n cofrestr o bleidleiswyr cymwys yn gyfredol.

O fis Gorffennaf bob blwyddyn, byddwn yn cysylltu â phob aelwyd i weld a yw'r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir.

Gellir cysylltu â’ch aelwyd drwy:

  • e-bost
  • ffôn
  • post

Gallwch fynd i wefan Y Comisiwn Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio

E-bost Canfasio Blynyddol - Etholwyr 2023

Rydym yn cysylltu ag eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot i gadarnhau pwy sydd wedi cofrestru i bleidleisio.

Bydd e-byst swyddogol yn cael eu hanfon gan ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol: neath.port.talbot.electoral.services@notifications.service.gov.uk.

Bydd yr e-bost yn eich cyfeirio i gofrestru'n ddiogel lle gallwch gadarnhau manylion y gofrestr etholiadol ar gyfer eich eiddo.

Os ydych yn diweddaru neu'n cadarnhau eich manylion drwy e-bost, nid oes angen i chi ddychwelyd unrhyw ffurflen canfasio blynyddol bapur y gallech ei derbyn.

Sut i ddiweddaru eich manylion

Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen cyfathrebiadau canfasio cyn gynted â phosib os oes angen i chi wneud newidiadau. 

Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen a anfonir atoch:

  • ewch i'r wefan: diweddaru eich manylion
  • côd diogelwch rhan 1 <nodwch y rhif a dderbyniwyd>
  • côd diogelwch rhan 2 <nodwch y rhif a dderbyniwyd>
  • diweddaru'ch gwybodaeth aelwyd a chyflwyno

Rhaid i chi gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn.

Os ydych yn ychwanegu unrhyw etholwyr newydd bydd angen iddynt  gwblhau cais i gofrestru.

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg o'r flwyddyn i roi gwybod i ni am newidiadau i'ch gwybodaeth yn:

Tîm Gwasanaethau Etholiadol
(01639) 763330 (01639) 763330 voice +441639763330