Pryd y cynhelir etholiadau
Etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Mae 60 sedd Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer 34 o wardiau etholiadol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr etholiad Cyngor Bwrdeistref Sirol nesa Mai 2027.
Etholiadau Cynghorau Cymuned/Tref
Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Mae 250 sedd ar gyfer 52 Cymuned/Ward Gymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr etholiad Cynghorau Cymuned/Tref nesa Mai 2027.
Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig
Fel arfer caiff Aelodau Seneddol eu hethol unwaith bod pedair/pum mlynedd. Y ddwy Etholaeth yn ardal y Fwrdeistref Sirol yw Aberafan a Chastell-nedd.
Etholiadau Senedd
Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol unwaith bob pum blynedd. Mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am yr etholiadau yn etholaethau Aberafan a Chastell-nedd. Bydd etholwyr hefyd yn pleidleisio dros 4 Aelod Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Etholiadol Gorllewin De Cymru. Bydd etholiad Senedd nesa Mai 2026.
Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddau
Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau yn cael eu hethol unwaith bob pedair blynedd. Mae Castell-nedd Port Talbot yn rhan o Ardal Heddlu De Cymru ar gyfer yr etholiadau hyn. Bydd etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddau nesa 2024.
Is-etholiad
Gall is-etholiad gael ei gynnal ar unrhyw adeg os bydd swydd wag achlysurol yn sgîl, er enghraifft, ymddeoliad aelod etholedig.