Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Archwilio neu brynu'r gofrestr

Archwilio'r gofrestr etholwyr

Mae'r gofrestr etholwyr ar gael i'w harchwilio yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot. Gall unrhyw un wirio bod ei enw wedi'i gynnwys neu os yw am wrthwynebu unrhyw gofnod ar y gofrestr, fodd bynnag ni ellir chwilio'r gofrestr yn ôl enw etholwr - mae yn nhrefn cyfeiriadau.

Yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Diwygiad) 2002, mae'r rheolau canlynol yn berthnasol i'r bobl sy'n archwilio'r gofrestr:

  • Mae'r gofrestr yn agored i'r cyhoedd ei harchwilio, dan oruchwyliaeth.
  • Gall darnau o'r gofrestr gael eu cofnodi drwy wneud nodiadau ysgrifenedig yn unig. Ni chaniateir unrhyw lungopïo neu gofnodi electronig yn ôl y gyfraith.
  • Ni ddylai gwybodaeth a geir o'r gofrestr gael ei defnyddio at ddibenion marchnata uniongyrchol (fel adran 11(3) Deddf Diogelu Data 1998), oni bai bod yr wybodaeth wedi'i chyhoeddi yn fersiwn ddiwygiedig y gofrestr.
  • Mae unrhyw un sy'n peidio â glynu wrth yr amodau hyn yn cyflawni trosedd. Y gosb yw dirwy o hyd at £5,000.

Prynu'r gofrestr agored

Dim ond fersiwn agored y gofrestr sydd ar gael i'w gwerthu'n gyffredinol. Gellir ei phrynu yn ei chyfanrwydd neu brynu rhan ohoni a gellir ei defnyddio at unrhyw ddiben. Cyfrifir prisiau fel a ganlyn:-

  • Ar bapur - ffi weinyddol o £10 ynghyd â £5 am bob 1000 o gofnodion yn y gofrestr
  • Ar ffurf data - ffi weinyddol o £20 ynghyd â  £1.50 am bob 1000 o gofnodion yn y gofrestr

Os hoffech brynu'r wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio elections@npt.gov.uk neu ffonio 01639 763330.