Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cymorth i bleidleiswyr anabl

Ein nod yw gwneud yr holl orsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr anabl, er enghraifft:

  • rydym yn darparu rampiau lle bo angen
  • mae’r Swyddog Llywyddu ar gael i’ch helpu
  • bwth pleidleisio wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
  • gall ffrind neu berthynas fod gyda chi os oes angen help arnoch
  • mae cadeiriau ar gyfer pobl na allant sefyll am gyfnodau hir

Gall staff gorsafoedd pleidleisio hefyd ddarparu cymhorth i helpu pleidleiswyr dall neu rannol ddall:

  • teclynnau dal pensil 
  • chwyddwydrau mawr
  • dyfais bleidleisio gyffyrddadwy
  • fersiynau print mawr o bapur(au) pleidleisio
  • dalen droshaen asetad liw i leihau straen gweledol

Ffurflenni pleidleisio drwy'r post neu ddirprwy

Gall pleidleiswyr ag anabledd gael pleidlais ddirprwy barhaol. Dyma pan fyddwch yn enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio.

Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am arweiniad a ffurflenni cais ar gyfer:

Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol.

Gwybodaeth i bleidleiswyr anabl

Darllenwch fwy am hawliau pleidleisio i etholwyr anabl i gael gwybod:

  • beth yw pleidleisio
  • pam ei fod mor bwysig
  • sut gallwch chi bleidleisio

Mae Mencap wedi creu canllawiau i helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall:

  • eich hawliau
  • cofrestru i bleidleisio
  • pam fod eich pleidlais yn bwysig
  • sut i bleidleisio mewn etholiadau
  • rheolau newydd ar ddulliau ID ffotograffig

Mae gan GOV.UK gwybodaeth i bobl ag anabledd dysgu a'u gweithwyr cymorth.

Sylwer: Mae'r dolenni hyn yn uniongyrchol i wefannau uniaith Saesneg.

Pasbort pleidleisio

Mae pasbort pleidleisio yn ddalen o bapur A4 i'w rhoi i'r staff pleidleisio fel eu bod yn gallu deall yn hawdd yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen i alluogi'r person i bleidleisio.

Mae gan bawb ag anabledd dysgu hefyd yr hawl i bleidleisio. Cyn belled â'ch bod yn gallu cyfathrebu dros bwy yr hoffech bleidleisio, gall rhywun gwblhau'r papur pleidleisio i chi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am basbort pleidleisio, cysylltwch â'r Gwasanaeth Etholiadol.

Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
Gwasanaeth Etholiadol
Canolfan Ddinesig Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763330 (01639) 763330 voice +441639763330