Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gweithio mewn etholiadau

Ydych chi erioed wedi meddwl am gymryd rhan yn ystod cyfnod etholiadau trwy weithio naill ai mewn gorsaf bleidleisio neu yn ystod y cyfrif?  

Mae'r Gwasanaethau Etholiadol bob tro'n gobeithio recriwtio aelodau staff cryf eu cymhelliad a deinamig i lenwi unrhyw swyddi gwag sydd ar gael, a hoffem glywed gennych chi os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan.  

Gweithio mewn Gorsaf Bleidleisio

Penodir aelodau staff yr orsaf bleidleisio gan y Swyddog Canlyniadau ac maent yn gyfrifol am gynnal y bleidlais, gan sicrhau y dilynir trefniadau addas ar gyfer pleidleisio.  

Ar ddiwrnod yr etholiad, mae staff pleidleisio ar ddyletswydd o 6.00am tan ychydig ar ôl 10.00pm.  

Gofynnir i'r holl aelodau staff a gyflogir i weithio mewn gorsaf bleidleisio fynychu sesiwn hyfforddi cyn dechrau eu rôl. 

Gweithio yn y Cyfrif 

Penodir Cynorthwywyr Cyfrif hefyd gan y Swyddog Canlyniadau, y mae ei rôl yn cynnwys dilysu a chyfrif y pleidleisiau a wnaed yn y gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â'r pleidleisiau drwy'r post a dderbynnir cyn y diwrnod pleidleisio.  

Gellir dilysu a chyfrif ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau (10pm ar y diwrnod pleidleisio), neu'r bore canlynol.  

Mae'r cyfrif fel arfer yn digwydd yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd, Cwrt Herbert, neu ar gyfer etholiadau lleol, gwneir hyn yn:

  • Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot
  • Canolfan Hamdden Pontardawe 
  • Canolfan Hamdden Castell-nedd

Cymhwysedd

I weithio mewn etholiadau, rhaid i chi ddiwallu'r canlynol:  

  • rydych yn 18 oed neu'n hŷn 
  • mae gennych hawl i weithio yn y DU  
  • nid ydych wedi'ch cyflogi gan ymgeisydd posib neu'n perthyn iddo 
  • nid ydych yn gweithio i ymgeisydd neu barti gwleidyddol, er mwyn i chi weithio fel aelod o staff yr orsaf bleidleisio neu staff cyfrif 

Gwneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â’r tîm etholiadau gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein fer atodedig.

Gweithio mewn etholiadau yn CnPT

Yna anfonir gwahoddiad e-bost atoch a dolen i’r Porth Staffio Etholiadau a fydd yn eich galluogi i sefydlu eich tudalen proffil diogel personol.

Ar ôl cyflwyno cais

Byddwn yn ystyried profiad ac argaeledd pobl, yn ogystal â lle maent yn byw pan fyddwn yn cynnig swyddi.  

Mae pob penodiad yn un dros dro ac os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau (nid Cyngor Castell-nedd Port Talbot) 

Nid yw cael eich penodi i weithio mewn etholiad yn gwarantu y byddwch yn gweithio mewn etholiadau yn y dyfodol, ond os na allwn eich penodi'n syth, byddwn yn cadw'ch manylion ar gyfer unrhyw swyddi gwag sy'n codi cyn y diwrnod pleidleisio ac ar gyfer unrhyw is-etholiadau sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn, os byddwch yn cytuno i hynny.  

Rhagor o wybodaeth

Cyflogir ar gyfer rolau etholiadol achlysurol yn uniongyrchol drwy'r Swyddog Canlyniadau ac nid trwy Gyngor Castell-nedd Port Talbot.  

Nid yw amodau a thelerau cyflogai Cyngor CNPT a mynediad at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn berthnasol ar gyfer rolau etholiadol achlysurol.  

Telir am waith mewn etholiadau ar sail Talu wrth Ennill (PAYE), sy'n golygu y gellir didynnu treth o enillion. Fodd bynnag, mae ffïoedd a delir ar gyfer gwaith mewn etholiadau wedi'u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. 

Mwy o gyngor:

Gwasanaethau Etholiadol
Canolfan Ddinesig Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763330 (01639) 763330 voice +441639763330