Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth am dreth y Cyngor i landlordiaid

Cofrestru tenantiaid am gyfnod ôl-weithredol

Byddwch yn ymwybodol na fyddwn fel arfer yn cofrestru tenantiaid am gyfnod ôl-weithredol. Er mwyn i ni ystyried apêl i gofrestru tenantiaid am gyfnod yn y gorffennol, bydd angen i ni weld tystiolaeth ategol lawn fel:

  • cytundebau tenantiaeth
  • prawf o dalu rhent
  • biliau cyfleustodau
  • cyfeiriad newydd a manylion cyswllt tenantiaid
  • manylion cyflogaeth

Gallwn benderfynu nad oes digon o wybodaeth ar gael i ystyried cofrestru'r tenant ar gyfer Treth y Cyngor a gallwn anfon bil atoch chi ar gyfer y cyfnod dan sylw. Dyma pam mae'n bwysig rhoi gwybod i Is-adran Treth y Cyngor yn brydlon pan fydd tenantiaid yn symud i mewn ac yn gadael.

Pwy sy'n talu Treth y Cyngor rhwng tenantiaethau?

Pan ddaw eiddo'n wag, bydd atebolrwydd yn dychwelyd i'r landlord.  Bydd y swm y bydd rhaid i chi ei dalu'n dibynnu ar statws yr eiddo.

  • os adewir yr eiddo heb ddodrefn rhwng tenantiaethau, bydd gostyngiad o 25% yn berthnasol tan i'r tenant nesaf symud i mewn.
  • pan adewir eiddo heb ddodrefn rhwng tenantiaethau, gallwch fod yn gymwys i gael gostyngiad o 100% am hyd at chwe mis ar y mwyaf.

Pwy sy'n talu Treth y Cyngor os yw fy nhenant yn byw gyda fi?

Os yw tenant yn byw gyda chi fel lojar, byddwch chi'n parhau i fod yn atebol am Dreth y Cyngor. Oni bai ei fod yn fyfyriwr amser llawn neu'n cael ei ddistyru am reswm arall, byddech chi fel arfer yn atebol i dalu'r gost lawn. Cyfeiriwch at yr adran "gostyngiadau i filiau Treth y Cyngor".

Pwy sy'n talu Treth y Cyngor os yw'r eiddo rwyf yn ei rentu'n dŷ amlbreswyl?

Mewn eiddo a rentir ar sail amlbreswyl, byddwch chi'n atebol am Dreth y Cyngor. Diffinnir eiddo o'r fath fel a ganlyn:

  • eiddo sydd wedi'i adeiladu neu'i addasu ar gyfer amlbreswyliaeth, h.y. fflatiau un ystafell
  • eiddo a rentir i denantiaid y mae ganddynt brydles ar ran o'r eiddo'n unig
  • eiddo ar rentir i denant nad yw'n atebol am rent ar gyfer yr eiddo cyfan, h.y. rhentir fesul person, nid fesul eiddo

Beth os rwyf yn adnewyddu'r eiddo?

Os yw'r eiddo heb ddodrefn, mae'n anaddas i fyw ynddo ac mae angen gwaith strwythurol sylweddol i'w wneud yn addas i fyw ynddo, gallwch fod yn gymwys i gael eich eithrio am hyd at flwyddyn. Bydd Is-adran Treth y Cyngor yn trefnu i archwilio'r eiddo er mwyn gweld a fyddai'n addas i gael ei eithrio. Byddwn yn annhebygol o ôl-ddyddio'r eithriad hwn, felly mae'n bwysig rhoi gwybod i ni ar unwaith eich bod chi am gael eich eithrio.

Pe bai tenant yn gadael heb dalu Treth y Cyngor, a fyddwn yn atebol am ei ddyled?

Am fod eich tenant yn atebol am Dreth y Cyngor, pe bai e'n mynd i ddyled, byddai unrhyw ddyled yn aros yn ei enw ef. Ni fyddai'n aros gyda'r eiddo nac yn cael ei throsglwyddo i chi. Fodd bynnag, pan fydd e'n gadael yr eiddo, mae'n bwysig ein bod ni'n cael gwybod yn brydlon ac yn derbyn cyfeiriad newydd amdano. Nod hyn yw ein galluogi i gau'r cyfrif ac anfon unrhyw ohebiaeth i'r cyfeiriad newydd ac nid i'ch eiddo chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen gwybodaeth arnoch, cysylltwch ag Is-adran Treth y Cyngor drwy ffonio (01639) 686188 neu drwy e-bostio council.tax@npt.gov.uk.