Eithriadau Treth y Cyngor
Eithriadau eiddo sy'n cael eu meddiannu
Dim ond myfyrwyr (gan gynnwys myfyrwyr nyrsio ar gyrsiau amser llawn) a'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg sy'n byw yn yr eiddo. Nid yw'r eithriad yn berthnasol os oes rhywun nad yw'n fyfyriwr yn byw yn yr eiddo.
Daw'r eithriad i ben os yw unrhyw un o'r preswylwyr yn gorffen bod yn fyfyriwr ar y diwrnod y daw'r cwrs i ben neu os yw'r person hwnnw wedi gadael y cwrs.
Gwneud cais
Dim ond pobl dan 18 oed sy'n byw yn yr eiddo.
Daw'r eithriad i ben unwaith bod un o'r preswylwyr yn troi'n 18 oed.
Mae'r eiddo'n rhan o eiddo arall ac yn unig neu'n brif breswylfa rhywun sy'n berthynas ddibynnol i berson sy'n byw yn yr eiddo arall.
Rhaid bod y berthynas ddibynnol:
- yn 65 oed neu'n hŷn, neu
- fod ganddo/i nam meddyliol difrifol
- neu anabledd sylweddol parhaol.
Gwneud cais
Mae un neu fwy o bobl sy’n gadael gofal yn byw yn yr eiddo neu mae pob preswylydd naill ai’n gadael gofal neu’n cael ei ddiffinio fel myfyriwr neu berson sydd â nam meddyliol difrifol.
Mae’r Rheoliadau’n diffinio person sy’n gadael gofal fel person sy’n -
- 24 oed neu’n iau (nid yw’n gymwys o’i ben-blwydd yn 25 oed); ac sy’n
- Berson ifanc yng nghategori 3 fel a diffinnir gan Adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cysylltwch â ni a rhown wybod i chi am yr hyn y mae’n rhaid i chi’i wneud.
Eithriadau eiddo gwag
Premiymau ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi
O 1 Ebrill 2025, bydd 100% o dâl Treth y Cyngor ychwanegol ar:
- eiddo gwag hirdymor
- ail gartrefi
Mae hyn ar ben y bil Treth y Cyngor arferol, sy'n golygu cyfanswm tâl o 200%.
Rhoddir eithriad i eiddo:
- Sy'n anaddas i fyw ynddo yn ei gyflwr presennol ac mae angen gwaith atgyweirio sylweddol i'w wneud yn addas i fyw ynddo neu
- Lle mae gwaith atgyweirio sylweddol neu adnewyddu yn cael ei wneud i'r fath raddau mae'r eiddo yn anaddas i fyw ynddo
- Lle mae gwaith newidiadau adeileddol yn cael eu gwneud.
Enghreifftiau o gyflyrau a fyddai'n achosi i eiddo gael ei ystyried yn anaddas i fyw ynddo:
- Eiddo sy'n hen, wedi'u dyddio y mae angen eu hadnewyddu'n llwyr e.e. sydd â chyfleusterau toiled y tu allan yn unig (nid yw hyn yn cynnwys eiddo sydd â hen nodweddion neu osodiadau)
- Mae angen newid cyflwr neu adnewyddu adeileddol yr eiddo yn sylweddol, megis ailadeiladu waliau diffygiol (nid waliau ffrâm/parwydydd) neu ddistiau, tanategu neu atgyweirio sylfeini dan y safon (gweler 3 isod)
- Difrod helaeth wedi'i achosi gan ymsuddiant, tân neu lifogydd
- Difrod helaeth wedi'i achosi gan leithder neu dreiddiad dŵr sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o'r tŷ.
Enghreifftiau o le gall graddfa'r gwaith achosi i eiddo fod yn anaddas i fyw ynddo:
Ni fyddai rhai mathau o waith atgyweirio ar eu pen eu hunain yn achosi i eiddo fod yn anaddas i fyw ynddo, e.e.
- Adnewyddu yn rhannol cwrs gwrthleithder
- Newid ffenestri
- Offer trydanol newydd
- Atgyweirio neu osod systemau plymwaith a gwres canolog
- Newid cyfleusterau'r ystafell ymolchi a'r gegin
- Ailblastro waliau/nenfydau
- Adnewyddu cwrs gwrthleithder yn rhannol
- Gwaith cynnal a chadw megis ailbwyntio bricwaith neu osod ffenest/drws newydd
- Mân newidiadau i estyniad nad ydynt yn effeithio ar weddill yr annedd
Serch hynny, er na fyddai'r mathau o waith a restrir uchod yn gymwys ar eu pennau eu hunain, gallai gyfuniad o'r atgyweiriadau hyn fod yn gymwys.
Enghreifftiau o newidiadau adeileddol
Mae hyn yn cynnwys newid i adeiladwaith yr annedd sy'n atal pobl rhag byw ynddo, megis:
- Estyniad sy'n effeithio ar yr eiddo yn ei gyfanrwydd, er enghraifft bloc o fflatiau'n cael ei addasu'n dŷ sy'n golygu dymchwel waliau mewnol ac allanol neu
- Tŷ sy'n cael ei rannu'n fflatiau.
Er mwyn asesu a yw eithriad Dosbarth A yn berthnasol, mae'n rhaid i'r awdurdod bilio gymryd camau rhesymol megis cynnal archwiliad mewnol, casglu tystiolaeth o weithwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith fel adeiladwyr, plymeriaid, trydanwyr fel y bo'n berthnasol neu adroddiad gan syrfëwr (ac mae'n rhaid i'r holl adroddiad fod ar bapur pennawd), lluniau a derbynebau deunyddiau a brynwyd er mwyn gwneud y gwaith.
Dylech nodi y codir treth gyngor o 100% ar eiddo gwag.
Os bydd yr eiddo'n newid dwylo yn ystod y cyfnod hwn, mae gan dalwr newydd treth y cyngor yr hawl i'r gweddill sydd ar ôl am y cyfnod eithrio yn unig.
Os yw eiddo yn adfeiliedig, gall y perchennog gynnig i'w dynnu oddi ar y Rhestr Brisio.
Gellir rhoi eithriad am gyfnod o hyd at 12 mis, neu hyd at 6 mis ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau (pa ddyddiad bynnag sydd gynharaf). Daw'r eithriad i ben hefyd os bydd rhywun yn dechrau byw yn yr eiddo neu os yw'r eiddo'n cael ei ddodrefnu. Ar ddiwedd cyfnod yr eithriad, mae 100% o Dreth y Cyngor yn daladwy os yw'r eiddo'n parhau i fod yn wag a heb ddodrefn.
Gellir rhoi'r eithriad hwn i eiddo sydd 'heb ei feddiannu a heb ddodrefn'. Golyga hyn na ddylai fod unrhyw ddodrefn o gwbl yn yr eiddo ar wahân i nwyddau gwyn a gosodion (fel cypyrddau gosod).
Mae'r eithriad yn para am gyfnod o hyd at 6 mis o'r dyddiad gwreiddiol y daeth yn eiddo nad oedd neb yn byw ynddo a heb ddodrefn.
Gwneud cais
Ar ôl rhoi'r gostyngiad
Sylwer y caiff yr eiddo ei archwilio ar ôl rhoi'r gostyngiad, ac os bydd unrhyw eitemau o ddodrefn tynnir y gostyngiad yn ôl.
At the end of the exemption period a 100% charge is payable.
Os bydd yr eiddo'n newid dwylo yn ystod y cyfnod hwn, mae gan dalwr newydd treth y cyngor yr hawl i'r gweddill sydd ar ôl am y cyfnod eithrio yn unig.
Rhoddir eithriad dosbarth F i eiddo nad oes neb yn byw ynddo yn dilyn marwolaeth talwr treth y cyngor (cyhyd ag yr oedd yr unigolyn sydd wedi marw yn denant yr eiddo neu'n berchennog arno).
Gall yr eithriad bara am hyd at 6 mis ar ôl dyddiad y brofeb neu'r llythyrau gweinyddu, ond daw i ben os caiff yr eiddo ei werthu neu os oes rhywun yn symud i mewn i'r eiddo.
Os nad oedd y person sydd wedi marw yn berchen ar yr eiddo, er enghraifft os mai mab/merch yw'r perchennog, bydd y perchennog cyfreithiol yn atebol o ddyddiad y farwolaeth ac ni fydd yr eithriad yn berthnasol.
Gwneud cais
Nid oes neb yn byw yn yr eiddo oherwydd bod talwr treth y cyngor wedi symud i ffwrdd er mwyn gofalu am rywun arall. Nid oes yn rhaid i'r gofalwr fyw yn yr un eiddo â'r person sy'n derbyn gofal, ond mae'n rhaid iddo allu rhoi'r gofal yn well o'i gartref newydd.
Nid oes cyfyngiad amser ar yr eithriad hwn. Serch hynny, nid yw'n berthnasol os bydd rhywun arall yn symud i mewn i'r eiddo.
Rhoddir eithriad dosbarth E i eiddo nad oes neb yn byw ynddo oherwydd bod talwr treth y cyngor wedi mynd i'r ysbyty neu i gartref gofal preswyl i dderbyn triniaeth bersonol yn barhaol (cyhyd ag yr oedd yr unigolyn yn denant yr eiddo neu'n berchennog arno).
Rhoddir eithriad dosbarth I i eiddo nad oes neb yn byw ynddo oherwydd bod talwr treth y cyngor wedi mynd i fyw gyda rhywun arall i dderbyn gofal oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, neu oherwydd anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd.
I fod yn gymwys i'r eithriad yma mae'n rhaid i'r eiddo fod yn wag a'r rhoddwr morgais wedi cymeryd meddiant or eiddo. Nid yw'r meddiant yma yn golygu newid mewn perchnogaeth.
Mae'r eithriad yma yn ddilys or dyddiad mae'r eiddo yn wag
Rhaid i chi anfon archebu adfeddiant i ni.
Dosbarthiadau eithrio eraill
- Dosbarth B - Eiddo gwag sy'n eiddo elusennau
- Dosbarth D - Eiddo wedi'i adael yn wag gan rywun sydd yn y carchar
- Dosbarth G - Eiddo na chaniateir byw ynddo yn ôl y gyfraith
- Dosbarth H - Eiddo gwag a ddelir dros weinidog crefyddol
- Dosbarth K - Eiddo wedi'i adael yn wag gan fyfyrwyr
- Dosbarth M - Neuaddau preswyl myfyrwyr
- Dosbarth O - Llety'r lluoedd arfog
- Dosbarth P - Eiddo lle mae aelodau o luoedd arfog ar ymweliad yn byw
- Dosbarth Q - Eiddo wedi'i adael yn wag gan fethdalwr
- Dosbarth R - Safleoedd carafanau ac angorfeyddd cychod lle nad oes neb yn byw
- Dosbarth T - Rhandai nad oes neb yn byw ynddynt
- Dosbarth V - Eiddo lle mae diplomyddion yn byw