Benthyciad gwella cartrefi
Mae benthyciad gwella cartrefi Llywodraeth Cymru’n fenthyciad di-log sy’n amrywio o £1000 i £25,000 i dalu am waith atgyweirio hanfodol i’ch cartref. Mae’r benthyciad ar gael i berchnogion tai, landlordiaid, (unigolion neu gwmnïau), datblygwr a sefydliadau elusen / trydydd sector.
Gallwch ddefnyddio’r benthyciad i dalu am waith sy’n gwneud eich cartref yn fwy cynnes, yn saffach ac yn fwy diogel. Er enghraifft:
- Namau sylweddol i’ch eiddo, er enghraifft – grisiau peryglus, trydan peryglus, to sy’n gollwng.
- Diogelwch neu sicrwydd rhag tân
- Uwchraddio boeleri / systemau gwres canolog
- Ffenestri newydd
- Atal tamprwydd
Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
Mae sawl amod yn gysylltiedig â’r benthyciad. Yn eu plith mae:
- Lleiafswm y benthyciad i bob eiddo cartref yw £1000 gydag uchafswm o £25,000.
- Cytunir ar delerau ad-dalu i berchnogion cartrefi fesul achos hyd at dymor hiraf y benthyciad o 10 mlynedd.
- Bydd ffi weinyddol untro’n gorfod cael ei thalu, y gellir ei thalu’n ôl dros holl dymor y benthyciad, neu ar y dechrau.
- Mae cymhareb 80% benthyciad yn erbyn gwerth (LTV) ble nad oes modd i unrhyw fenthyciad a gynigir, ar ôl ystyried unrhyw forgais neu fenthyciad a warantir sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo sy’n cael ei ddefnyddio fel gwarant ar y farchnad agored. Gellir darparu enghreifftiau o hyn o holi amdanynt.
Mae pob benthyciad yn ddibynnol ar fod ar gael. Nid yw cael cynnig benthyciad yn addewid o’i gael hyd nes i chi dderbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan y cyngor. Bydd unrhyw waith a wneir cyn derbyn y gymeradwyaeth hon yn digwydd ar eich perwyl eich hun.
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys o dan yr amodau canlynol i dderbyn y benthyciad:
- Rhaid i’r eiddo fod wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot
- Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn asesiad fforddiadwyedd (ble defnyddir Gwybodaeth Statws Credyd a ffactorau eraill)
- Penderfynir ar waith sy’n gymwys gan Swyddog Awdurdod Lleol, pan fydd yn archwilio’r eiddo.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y benthyciad Gwella Cartrefi, cysylltwch â:
Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai
Ffôn: 01639 763535 (Llun – Mercher) neu 01639 763212 (Mercher – Gwener)
E-bost: privatesectorloans@npt.gov.uk