Benthyciadau Sector Preifat
Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth addasu & adnewyddu tai yn cynnig dau fath o fenthyciadau di-log.
Mae'r benthyciadau wedi'u hanelu at ddarparu cymorth ariannol i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd neu i berchnogion eiddo is-safonol, i wneud gwaith adnewyddu i wella safon yr eiddo.
- Troi Tai'n Gartrefi - sicrhau bod eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio fel llety preswyl
- Benthyciadau Gwella Cartrefi - Ar gyfer perchnogion eiddo is-safonol i'w gwneud yn gynnes neu'n ddiogel.
Ni warantir unrhyw gynnig benthyciad hyd nes y cewch gymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor. Bydd unrhyw waith a wneir cyn y cymeradwyaeth hwn ar risg eich pen eich hun.
Cynllun benthyciad Troi Tai i mewn i gartrefi
Mae cynllun benthyciadau Llywodraeth Cymru sef Troi Tai i Mewn i Gartrefi yn cynnig benthyciadau di-log di-dymor i adnewyddu a / neu drawsnewid eiddo gwag hirdymor yn ôl i'w ddefnyddio ar gyfer ailgartrefu fel llety preswyl.
Benthyciadau gwella cartrefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi sy'n cynnig cymorth ariannol i berchnogion eiddo preifat ledled Cymru.
Mae'r gronfa ar gael i ddarparu benthyciadau tymor byr i tymor ganolig i berchnogion eiddo is-safonol i'w gwneud yn gynnes neu'n ddiogel.
Mae'r benthyciadau yn amodol ar asesiad fforddiadwyedd ac fe'u hanelir at ymgeiswyr sydd wedi'u cyfyngu gan ffynonellau cyllid eraill.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai ar 01639 763212 neu drwy e-bost at privatesectorloans@npt.gov.uk