Hawliau Lles
Mae'r Uned Hawliau Lles yn adran arbenigol sy'n helpu pobl i hawlio'r Budd-daliadau Lles y mae ganddyn nhw'r hawl i'w cael. Os ydych chi'n meddwl efallai y gallwch chi hawlio budd-daliadau ychwanegol ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, yna efallai y gallwn helpu.
Gallwn rhoi cyngor ar fudd-daliadau dros y ffôn i gael gwybod a oes gennych hawl, llenwi ffurflenni budd-daliadau a'ch cynrychioli mewn Tribiwnlys budd-daliadau os oes angen.
Rydyn ni'n cynnal sesiynau cymhorthfa allgymorth mewn nifer o rhannau o Gastell-nedd Port Talbot lle byddwn yn llenwi ffurflenni budd-dal. Fel arall, efallai y gallwn lenwi ffurflen dros y ffôn gyda chi, neu ymweld â chi gartref, os na allwch chi fynd allan.
Efallai y byddwn hefyd yn gallu dod i rhoi sgwrs i'ch sefydliad naill ai mewn cyfarfod tîm i staff neu i grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth.
Buddion y gallwn helpu gyda
Y budd-daliadau yr ydym yn delio â nhw:
- Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP)
- Credyd Cynhwysol (UC)
- Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini (AA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Credyd Pensiwn (PC)
- Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)
- Budd-dal Tai
- Cymorth Treth y Cyngor
- Cymhorthdal Incwm
- Credydau Treth
Sut i gysylltu ar Uned Hawliau Lles
Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch 01639 685225 neu e-bostiwch welfarerights@npt.gov.uk.