Cynllun Lesio Cymru
Cynllun lesio a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan y Cyngor yw Cynllun Lesio Cymru. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid yn y sector rhentu preifat lesio eu heiddo i ni am warant o incwm rhent misol am gyfnod a all fod rhwng 5 ac 20 mlynedd.
Nodau'r cynllun
Nod y cynllun yw:
- galluogi mwy o bobl i rentu'n breifat yng Nghymru
- gwneud rentu'n breifat yn opsiwn mwy fforddiadwy
Bydd y cynllun:
- gwella’r cyfle i bobl gael cartrefi yn y sector rhentu preifat
- sicrhau diogelwch llety tymor hwy
- cynnig llety fforddiadwy
- cynnig cymorth
- gwella safonau
- cyfrannu at leihau digartrefedd
- cynnig sicrwydd i denantiaid
- cynnig hyder i landlordiaid
Manteision ar gyfer tenantiaid
Bydd y tenantiaid sy’n byw yn yr eiddo hyn yn elwa ar y canlynol:
- cyfle i gael llety sefydlog yn y sector rhentu preifat ar gyfraddau lwfans tai lleol
- cymorth tebyg i’r hyn a ddarperir gan landlordiaid tai cymdeithasol mewn perthynas â’r denantiaeth
Manteision ar gyfer perchnogion eiddo
Bydd perchnogion eiddo sy'n lesio eu heiddo i ni'n elwa ar y canlynol
- lesoedd am gyfnodau o 5-20 mlynedd
- taliadau rhent gwarantedig am hyd y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol
- cynnig o hyd at £5000, fel grant, i wella'r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o'r safon y cytunwyd arni, a/neu gynyddu sgôr yr EPC i lefel C.
- gallai’r cyllid hwn gael ei estyn i hyd at £25,000 ar gyfer eiddo gwag
- atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo a wneir gan denantiaid dan y cynllun, yn amodol ar draul resymol
- gwarant o gymorth priodol i denantiaid, drwy gydol oes y les
Cofrestru eich diddordeb
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun neu cofrestru eich diddordeb, e-bostiwch: sociallettings@npt.gov.uk