Canllaw i Gymorth Treth Cyngor
If anyone needs any help or advice in relation to Housing Benefit and / or Council Tax Support please ring 01639 686838 (9.30am – 4.30pm) or email housing.benefits@npt.gov.uk and we'll get back to you as soon as we can.
Beth yw Cymorth Treth y Cyngor?
Mae cymorth treth y cyngor yn rhoi cymorth tuag at dalu bil eich treth y cyngor. Dylech wneud cais am Gymhorthdal Treth y Cyngor os bydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor ar gartref rydych chi'n byw ynddi a'ch bod ar incwm isel.
Sut mae Cymorth Treth y Cyngor yn cael ei dalu?
Telir cymorth treth y cyngor yn uniongyrchol i'ch cyfrif a bydd yn cael ei ddangos ar eich bil. Bydd y bil hefyd yn dangos i chi faint y mae'n rhaid i chi ei dalu a swm eich rhandaliadau.
Sut ydw i'n hawlio Cymorth Treth y Cyngor?
Os ydych chi'n credu bod gennych hawl i ostwng dreth y cyngor, llenwch y ffurflen gais. I ofyn am ffurflen ffoniwch ni ar
- 01639 686838 (9.30yb – 4.30yp)
Dylid dychwelyd ffurflenni yn syth i un o'r swyddfeydd canlynol:
Pa dystiolaeth fydd angen i mi ddarparu gyda'r ffurflen gais?
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth ategol a thystiolaeth gyda'ch cais. Rhaid i'r rhain fod yn ddogfennau gwreiddiol.
Fel arfer bydd angen:
- 2 ddarn o dystiolaeth sy'n profi eich hunaniaeth
- 1 darn o dystiolaeth yn cadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol (a phartneriaid os yw'n berthnasol)
- tystiolaeth o’ch holl incwm
- tystiolaeth o’ch holl cyfalaf
- tystiolaeth o incwm unrhyw annibynnydd sydd yn byw gyda chi
Mae'r ffurflen gais yn rhoi manylion i chi am pa fath o dystiolaeth sy'n dderbyniol.
Ni ddylech oedi wrth wneud eich cais. Os nad oes unrhyw un o'r dystiolaeth ategol ar gael, gellir ei anfon yn nes ymlaen.
Fodd bynnag, mae'n rhaid derbyn hwn o fewn un mis o'r dyddiad y gwneir yr hawliad.
Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i brosesu eich cais bydd hyn yn arwain at oedi wrth ddyfarnu cymorth.
Pa gynilion / cyfalaf sydd angen i mi ddweud wrthych chi?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym am eich HOLL cynilion a chyfalaf. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- y cyfanswm o arian mewn banc a chymdeithas adeiladu (hyd yn oed os yw'ch cyfrif wedi'i orlawni)
- tir neu eiddo rydych chi'n berchen ar wahân i'r cartref rydych chi'n byw ynddi
- stociau a chyfranddaliadau
- bondiau premiwm
- tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
- cyfrif ISA
- cyfrifon Swyddfa'r Post
Nid yw hon yn rhestr gyflawn, dim ond enghreifftiau o'r hyn y mae'n rhaid i chi ddweud wrthym amdano.
Sut fydd fy nghynilion / cyfalaf yn effeithio ar fy mudd-dal?
Os oes gennych gyfalaf byddwn yn anwybyddu'r £6,000 cyntaf os ydych chi'n oedran gweithio a'r £10,000 cyntaf os ydych chi'n oedran Pensiwn. Os oes gennych chi gyfalaf o fwy na £16,000, ni fyddwch fel rheol yn gymwys i gael budd-dal oni bai eich bod yn derbyn credyd gwarant gyda'r gwasanaeth pensiwn. Fodd bynnag, gan y gall rhai mathau o gyfalaf gael eu diystyru ac mae eithriadau i'r rheol gyfalaf, cysylltwch â'r adran budd-daliadau am gyngor pellach.
Pryd y bydd fy Nghymorth Treth y Cyngor yn dechrau?
Y rheol gyffredinol yw bod y budd-dal yn cael ei dalu o'r dydd Llun ar ôl i chi dderbyn eich ffurflen gais.
Y pwynt pwysig i'w gofio yw bod yn rhaid i chi wneud cais cyn gynted â phosib oherwydd nad yw Cymorth Treth y Cyngor yn cael ei ôl-ddyddio'n awtomatig. Os na fyddwch yn gwneud cais o fewn y terfynau amser a ganiateir, bydd angen i chi ofyn i ni, yn ysgrifenedig, ôl-ddyddio eich budd-dal, gan roi'r rhesymau pam na wnaethoch chi wneud cais ar yr adeg briodol. Os oes rheswm da gennych, byddwn yn ôl-ddyddio eich cymorth. Byddwn yn edrych ar bob achos yn unigol.
Beth os yw fy amgylchiadau'n newid?
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am gymorth treth y cyngor mae dyletswydd arnoch i roi gwybod, yn ysgrifenedig, am newidiadau yn eich amgylchiadau i'r Adran Budd-daliadau Tai. Hyd yn oed os ydych chi'n dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr adran Budd-dal Tai.
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod amdano:
- os ydych yn stopio neu'n dechrau derbyn cymhorthdal incwm / lwfans ceiswyr gwaith
- os byddwch chi'n stopio neu'n dechrau gweithio
- os oes gennych newid yn y cartref
- os byddwch chi'n gadael yr eiddo
- os yw'ch cyfalaf yn cynyddu / gostwng
- os oes gennych newidiaeth mewn incwm
- os oes gan annibynnydd newidiaeth yn incwm (annibynnydd i’w person heblaw am eich partner sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n byw gyda chi, er enghraifft, mab neu ferch sydd wedi tyfu i fyny)
Nid yw hon yn rhestr gyflawn a gall llawer o newidiadau eraill yn eich amgylchiadau effeithio ar eich hawl i gefnogaeth. Os nad ydych yn siŵr a yw newid yn effeithio ar faint o gefnogaeth, dywedwch wrth yr adran budd-dal beth bynnag a byddwn yn penderfynu a oes newid yn yr hawl.
Er bod rhaid rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau yn ysgrifenedig, bydd yr Adran Budd-daliadau yn derbyn galwad ffôn yn y lle cyntaf fel ffordd o dderbyn y wybodaeth.
Beth rwy'n ei wneud os yw penderfyniad y Cyngor am fy Nghymorth Treth y Cyngor yn anghywir?
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad yr Adran Budd-daliadau gallwch:
- gofynnwch am esboniad
- gofynnwch i ni edrych ar y penderfyniad eto
- apelio i Wasanaeth Tribiwnlys annibynnol
Mae'n rhaid i chi:
- dywedwch wrth yr adran budd-daliadau, yn ysgrifenedig pa benderfyniad yr ydych yn anghytuno â
- rhowch y rhesymau pam eich bod yn anghytuno â'r penderfyniad
- arwyddwch y llythyr
- rhaid i'r llythyr gyrraedd yr adran budd-daliadau o fewn un mis o ddyddiad y llythyr penderfyniad a ydych yn anghytuno â