Apeliadau Budd-dal Tai
Beth gallaf ei wneud os rwyf yn credu bod fy mudd-dâl yn anghywir?
- Os ydych wedi derbyn llythyr penderfyniad (llythyr yn dweud wrthych faint o fudd-dâl y byddwch yn ei gael a sut y cafodd ei gyfrifo), gallwch ofyn i ni:
- egluro ar lafar y rhesymau am ein penderfyniad, a/neu,
- anfon datganiad ysgrifenedig atoch o'r rhesymau am ein penderfyniad (mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn 1 mis o ddyddiad y llythyr penderfyniad).
- Os ydych yn dal i anghytuno â'n penderfyniad gallwch:
- ofyn i ni edrych arno eto;
- apelio yn erbyn y penderfyniad.
Rwyf am i chi edrych eto ar y penderfyniad
- Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym yn ysgrifenedig eich bod yn dymuno i ni edrych ar y penderfyniad eto. Mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn 1 mis calendr o ddyddiad y llythyr penderfynu, neu o fewn 1 mis calendr o'r dyddiad pan roddwyd datganiad ysgrifenedig i chi gyda'r rhesymau dros ein penderfyniad.
- Byddwn yn edrych ar ein penderfyniad eto, ac yn dweud wrthych:
- ein bod wedi newid ein penderfyniad, a beth yw'r penderfyniad newydd;
- nad ydym yn mynd i newid ein penderfyniad.
- Os nad ydym yn mynd i newid y penderfyniad a'ch bod yn dal i feddwl ei fod yn angyhywir, gallwch wneud apêl o fewn 1 mis calendr er mwyn i'ch cais gael ei glywed gan dribiwnlys.
Sut rydw i'n gwneud apêl?
- Mae'n rhaid i chi ysgrifennu atom o fewn un mis o ddyddiad y llythyr penderfynu i ddweud eich bod am apelio.
- Mae'n rhaid i chi ysgrifennu eich rhesymau dros wneud apêl. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd nid oes rhaid i'r Tribiwnlys fydd yn clywed eich apêl edrych ar unrhyw beth nad ydych wedi ei nodi yn eich llythyr.
- Mae'n rhaid i chi arwyddo'r llythyr.
Beth sy'n digwydd os rwyf yn apelio'n hwyr?
- Yr unig bryd y byddwn yn derbyn apêl hwyr yw os bydd amgylchiadau arbennig wedi achosi'r oedi - er enghraifft, marwolaeth, salwch difrifol, neu streic post.
- Mae'n rhaid i chi nodi eich rhesymau dros yr apêl hwyr yn eich llythyr.
- Ni allwn dderbyn apêl hwyr os bydd 13 mis neu fwy wedi mynd heibio ers dyddiad y llythyr penderfyniad.
Sut mae'r Tribiwnlys yn gweithio?
- Mae'r tribiwnlys yn cynnwys pobl nad ydynt o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ac mae ganddynt y wybodaeth a'r arbenigedd i ymdrin â'ch apêl.
- Mae 2 fath o wrandawiad:
- Gwrandawiad llafar sy'n caniatáu i chi neu'ch cynrychiolydd (neu'r ddau) fynychu yn bersonol ac egluro'r achos i'r tribiwnlys;
- gwrandawiad ar bapur sy'n golygu bydd y tribiwnlys yn clywed y dystiolaeth ysgrifenedig y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ei rhoi iddynt; ni fyddwch yn mynychu ond anfonir copi o'r penderfyniad atoch.
- Gall y tribiwnlys edrych ar y dystiolaeth, y gyfraith a'r amgylchiadau ar yr adeg y gwanaethom ein penderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn yn unig.
- Ni all y tribiwnlys edrych ar newidiadau yn eich amgylchiadau a ddigwyddodd ar ôl i ni wneud ein penderfyniad. Fodd bynnag, os yw eich amgylchiadau wedi newid, dywedwch wrthym yn syth oherwydd gallai effeithio ar y budd-dâl yr ydych yn ei dderbyn nawr.
- Os yw eich apêl yn llwyddiannus, byddwn yn newid eich budd-dâl yn syth ar ôl i ni dderbyn copi o benderfyniad y tribiwnlys.
- Os yw eich apêl yn aflwyddiannus, efallai y gallwch wneud apêl pellach i'r Comisiynwyr Lles Cymdeithasol - ond fel pwynt cyfreithiol yn unig.