Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Rheoli Datblygu: Cynllunio

1.Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rhydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a'r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA).

2. Bydd y data personol yr ydym yn ei chasglu drwy'r ffurflen hon yn cael ei defnyddio gan y Cyngor (yn unol iddo gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol

  • Fel rhan o’r cofnodion statudol sydd gennym o dan ddeddfwriaeth Sylfaenol a nodir isod ynghyd â’r holl is-ddeddfwriaethau a Rheoliadau eraill: 
    1. Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 
    2. Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
    3. Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 
    4. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015 
    5. Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994 
    6. Cyfarwyddeb CE 92/43/EEC ar Gadwraeth Cynefinoedd Naturiol a Ffawna a Fflora Gwyllt (Cyfarwyddeb Cynefinoedd) 
    7. Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 
    8. Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
  • Fel rhan o ddarpariaeth ein Gwasanaeth Cyngor Cyn Ymgeisio ar Gynllunio 
  • Fel rhan o'n Hymchwiliadau Gorfodi o dan y Deddfau a'r Rheoliadau y cyfeirir atynt uchod. 
  • Fel rhan o ‘Rhestrau Dosbarthu’ sydd wedi’u hanelu at roi gwybodaeth i chi am Gynllunio, Polisïau a Gweithdrefnau, gan gynnwys gwybodaeth a/neu ganllawiau Cenedlaethol perthnasol. 
  • I gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’n galluogi i wella’r gwasanaethau a gynigiwn. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, ffôn, neu bost. 

3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR rhoi gwybod i chi pa un o erthygl 6 "amodau prosesu data" GDPR y mae'n dibynnu arno i brosesu eich data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, rhydym yn eich hysbysu ein bod yn dibynnu ar y ddau amod erthygl 6 canlynol;

    1. Mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddo”. (Erthygl 6 (c) GDPR).
    2. “Mae angen prosesu’r data ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn y rheolwr.” (Erthygl 6 (e) GDPR).

4. Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel gyda'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl / cyrff / endidau y tu allan i'r Cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny.

Gall y Cyngor hefyd ymgynghori â’r cyrff hynny a nodir yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 fel y’i diwygiwyd. 

Mae'r rhain yn cynnwys;  

  • Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru 
  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch  
  • Awdurdodau Lleol Cyffiniol.
  • Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. 
  • CADW 
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) 
  • Dŵr Cymru  
  • Gweinidogion Cymru
  • Rhwydwaith Rheilffordd
  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent.  
  • Ymgymerwyr Statudol 
  • Yr Awdurdod Glo

Bydd y Cyngor yn rhannu gwybodaeth gyda Phenderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru (PEDW) os derbynnir apêl yn ymwneud â’r cais cynllunio. 

5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o:

  • Mae Adran 69 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ACLl (Awdurdod Cynllunio Lleol) gadw cofrestr mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd cynllunio.  Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol.  Roedd darpariaethau tebyg yn Neddfau 1947 a 1971. 
  • Mae Erthygl 29 o Orchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i Ran 2 o’r Gofrestr gynnwys y dogfennau a ganlyn mewn perthynas â phob cais am ganiatâd cynllunio:

- copi o'r cais ynghyd â chynlluniau, lluniadau a datganiad dylunio a mynediad cysylltiedig  

- manylion unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan Ddeddf 1990 neu’r gorchymyn datblygu mewn perthynas â’r cais  

- penderfyniad, os o gwbl, yr Awdurdod Cynllunio Lleol , gan gynnwys amodau  

- penderfyniad, os o gwbl, yr Awdurdod Cynllunio Lleol , gan gynnwys amodau  

- dyddiad unrhyw gymeradwyaeth ddilynol (boed mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl neu unrhyw gymeradwyaeth arall) a roddwyd mewn perthynas â’r cais.  

- copi o unrhyw Gytundeb Adran 106 neu 278 yr ymrwymwyd iddo mewn cysylltiad â phenderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol neu Weinidogion Cymru ar y cais neu a gymerwyd i ystyriaeth ganddynt wrth wneud y penderfyniad ynghyd â manylion unrhyw addasiad neu ryddhad o unrhyw gytundeb o’r fath   

Nid oes terfyn amser ar ddyletswydd yr awdurdod cynllunio lleol i sicrhau bod yr uchod ar gael i'r cyhoedd ei archwilio. Felly ni ellir dinistrio'r dogfennau uchod oni bai eu bod yn cael eu storio a'u bod ar gael yn electronig. 

Fodd bynnag, o ran dogfennau eraill ar ffeil y cais cynllunio megis ymatebion ymgyngoreion a sylwadau’r cyhoedd, byddai’r rhain yn bapurau cefndir ar gyfer adroddiad ac felly byddai angen iddynt fod ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio am o leiaf 4 blynedd o ddyddiad unrhyw benderfyniad. Fel y cyfryw byddai'r holl wybodaeth gefndir arall yn cael ei hadolygu i'w gwaredu, 6 blynedd ar ôl penderfynu ar y cais hwnnw. 

Mewn perthynas â Chwynion Gorfodi, mae holl gofnodion y Gofrestr Gorfodi i'w cadw fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, gan gynnwys pob achos lle cyflwynir hysbysiadau gorfodi ffurfiol. Lle mae achosion yn cael eu cau ar ôl cydymffurfio, diffyg hwylustod, dim tor-cynllunio neu gael caniatâd cynllunio wedi hynny. Bydd data personol yn cael ei cael ei adolygu i’w ddileu ar ôl cyfnod o 6 blynedd ar ôl cau’r achos hwnnw.

6.  Sylwch ei bod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych chi i ddarparu'r wybodaeth honno i ni olygu na fydd y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi a / neu gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.

7. Byddem yn eich hysbysu bod gennych hawl ar unrhyw adeg o dan Erthygl 21 GDPR i wrthwynebu'r awdurdod am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu ymarfer ein hawdurdod swyddogol. 

8. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall gyda phenderfyniad digonolrwydd.  Bydd yr holl brosesu eich data personol gennym ni yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.

9. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

10. Fe'ch cynghorir o dan GDPR bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o rhan eu data personol:

  1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.

  2. Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.

  3. Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).

  4.  Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).

  5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.

  6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.

11. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, yr ydych am gael mynediad neu os ydych am wneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

12. Fe'ch cynghorir, os gwnewch gais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 9 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a gwybodaeth bellach am eich hawliau oddi ar wefan y Comisiynydd - ico.org.uk.