Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Gweithffyrdd+

Fel rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mae gan Gweithffyrdd+ gyfundrefn Diogelu Data ar waith i oruchwylio prosesu eich data personol yn effeithiol ac yn ddiogel: yn unol â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Mae Gweithffyrdd+ yn brosiect a ariennir gan yr UE. Arweinir y prosiect gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion.

Er mwyn cyflawni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a dangos tystiolaeth o gyflawniad allbynnau, mae'n ofynnol i Gweithffyrdd+ gofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr y prosiect. Os gofynnir amdani, bydd y wybodaeth uchod yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a gwerthuswyr trydydd parti. Efallai y bydd y sefydliadau hyn am gysylltu â chyfranogwyr i wirio eu rhan yn y prosiect a chasglu adborth.

Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i Gweithffyrdd+ (gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i ni drwy'r cymwysiadau gwasanaeth ar y wefan hon (www.wgsb.wales/2092?lang=cy-gb) rydych yn cydnabod mai Gweithffyrdd+ yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a ddarperir i ni.

Pam mae ei angen arnom?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Gweithffyrdd+ at un neu fwy o’r dibenion canlynol:

  • Mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni cytundeb gyda chi neu er mwyn cymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i cytundeb o’r fath
  • Mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn i Gweithffyrdd+ gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’n ddarostyngedig iddo (Erthygl 6(c) GDPR)
  • “Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd." (Erthygl 6 (e) GDPR)
  • Mae'r prosesu yn angenrheidiol at ddibenion y buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y Cyngor neu gan drydydd parti

Ni fydd y Cyngor yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddibenion eraill, ac eithrio’r rhai a nodir uchod.

Beth a wnawn ag ef?

Er mwyn cyflawni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a dangos tystiolaeth o gyflawniad allbynnau, mae'n ofynnol i Gweithffyrdd+ gofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr y prosiect. Os gofynnir amdani, bydd y wybodaeth uchod yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a gwerthuswyr trydydd parti. Efallai y bydd y sefydliadau hyn am gysylltu â chyfranogwyr i wirio eu rhan yn y prosiect a chasglu adborth.
Mae’r holl ddata personol rydym yn ei brosesu yn cael ei brosesu gan ein staff yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion cynnal a chadw TG mae'r wybodaeth hon wedi'i lleoli ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
Mae’n bosibl y caiff eich gwybodaeth ei rhannu o fewn adrannau’r Cyngor i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith ac ni fyddwn yn rhannu eich data â thrydydd partïon oni bai bod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu i ni wneud hynny (e.e. dan GDPR, DPA neu unrhyw ddeddfwriaeth arall).

Byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel gyda darparwyr gwasanaeth sy’n arfer cyfrifoldebau ar ran y Cyngor, ond byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei diogelu trwy Gytundebau Prosesu Data sy’n cydymffurfio â GDPR.

Am ba hyd y byddwn yn ei gadw?

Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw gan y Cyngor yn unol â’r gofynion a nodir mewn deddfwriaeth ac yn gyffredinol (yn amodol ar unrhyw ofynion cyfreithiol i’r gwrthwyneb) tan fis Rhagfyr 2026. Er pan fyddwch wedi darparu gwybodaeth i ni at ddibenion marchnata byddwn yn cadw hyn, hyd nes y byddwch yn ein hysbysu nad ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth hon mwyach.

Beth yw eich hawliau?

O dan GDPR mae gennych hawl i’r hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:

i. Yr hawl i gael mynediad i'w data personol a gedwir gan reolwr data.
ii. Yr hawl i gywiro data anghywir gan reolwr data.
iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Os byddwch yn dymuno gwrthwynebu defnydd y Cyngor o’r wybodaeth hon neu ddiwygio unrhyw wybodaeth, gallwch roi gwybod i’r Cyngor ar unrhyw adeg a fydd yn ystyried unrhyw gais - ond nodwch y gallai hyn gael effaith ar natur y gwasanaethau bydd y Cyngor yn gallu darparu i chi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod yna wybodaeth bersonol benodol y mae'n rhaid i'r Cyngor ei chadw amdanoch chi yn rhinwedd ein gofynion cyfreithiol.

Os credwch ar unrhyw adeg fod y wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu amdanoch yn anghywir, gallwch ofyn am gael gweld y wybodaeth hon a’i chywiro neu ei dileu. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am sut rydym wedi trin eich data personol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i’r mater.

Gellir cysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ

Os ydych wedi gwneud cais a/neu gwyn am y Cyngor, ac nid ydych yn fodlon gyda'n hymateb neu'n credu ein bod yn prosesu eich data personol mewn ffordd nad yw yn unol â'r gyfraith, gallwch gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr ICO ar wefan yr ICO