Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaeth Twristiaeth

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y GDPR), a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, yn rheoli sut y mae Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn ymdrin â'ch gwybodaeth.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth a'r hawliau sydd gennych mewn perthynas â'r GDPR.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol sydd gan y gwasanaeth twristiaeth amdanoch.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth sylfaenol am eich busnes yn y ffyrdd canlynol;

  • Wrth gasglu rhestr bostio a stoc llety'r diwydiant twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
  • Rhestr ar-lein o ddarparwyr llety, darparwyr gweithgareddau ac atyniadau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cael ei harddangos ar wefannau a weithredir gan CBSCNPT visitnpt.co.uk a www.afanforestpark.co.uk.
  • Wrth gyflwyno unrhyw gyngor a chymorth uniongyrchol i'ch busnes mewn partneriaeth â Thîm Datblygu Busnes CBSCNPT.

Yn ogystal â'r gweithgareddau uchod, gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i fodloni gofynion adrodd ar gyfer prosiectau penodol sy'n cael eu cyflwyno gan y gwasanaeth twristiaeth. Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr prosiectau y mae'n eu cyflwyno.

Ar gais, bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei rhannu ag adrannau eraill Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a fydd efallai am gysylltu â chi er mwyn cadarnhau eich cyfranogaeth yn y prosiectau parhaus sy'n cael eu cyflwyno gan wasanaeth twristiaeth CBSCNPT.

Gellir rhannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill hefyd lle mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny.

Gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi

Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch yn dibynnu ar sut rydych yn cysylltu â Gwasanaeth Twristiaeth CBSCNPT.

Mae'r wybodaeth isod yn cael ei chadw'n ddiogel ar daenlen Microsoft Excel ynghyd â mewn cronfa ddata ddiogel a gynhelir gan Wasanaeth Datblygu Economaidd CBSCNPT. Mae pob dogfen ar bapur yn cael ei chadw'n ddiogel mewn cypyrddau wedi'u cloi.

Rhestr Bostio a Rhestr Stoc Llety'r Diwydiant Twristiaeth - Mae gennym restr o'r holl weithredwyr twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol;

  • Enw'r busnes
  • Enw cyswllt personol
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad y wefan
  • Data stoc llety ar gyfer pob busnes llety unigol. 

Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chadw ar sail ddewis a defnyddir yr wybodaeth i anfon newyddion perthnasol am y diwydiant twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â chyfrifo stoc llety'r ardal yn gyffredinol. Gallwch ddewis peidio â bod ar y rhestr bostio ar unrhyw bryd drwy e-bostio tourism@npt.gov.uk, fodd bynnag, byddwn yn parhau i gadw manylion stoc llety pob darparwr llety er mwyn cyfrifo darpariaeth llety yn yr ardal.

Cyfarfodydd Rhandeiliaid (Grwpiau Tasg a Gorffen) - Os rydych wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod rhandeiliad sy'n gysylltiedig â chyflwyno Cynllun Rheoli Cyrchfannau Castell-nedd Port Talbot, byddwch wedi darparu'r wybodaeth ganlynol er mwyn cofrestru'ch presenoldeb yn y cyfarfod;

  • Enw
  • Enw'r cwmni/sefydliad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn

Rhestrau ar visitnpt.co.uk a www.afanforestpark.co.uk - Os rydych yn ddarparwr llety, bydd eich cyfeiriad gwefan a chyfeiriad eich busnes (gan gynnwys map ar Google) yn cael eu hychwanegu at y gwefannau uchod, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall sy'n cynnwys graddfeydd sêr a gwelyau sydd ar gael. Os rydych yn ddarparwr gweithgareddau neu'n atyniad, bydd eich cyfeiriad gwefan yn cael ei gynnwys yn adrannau perthnasol y gwefannau uchod.

Cael mynediad at gronfa Digwyddiadau CBSCNPT – os rydych yn cyflwyno cais am gyllid drwy'n Cronfa, bydd yn rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol

  • Enw cyswllt
  • Enw'r busnes/sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Côd Post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad y wefan
  • Gwybodaeth ariannol mewn perthynas â'ch digwyddiad
  • Tystysgrifau yswiriant perthnasol a allai gynnwys gwybodaeth bersonol.

Wrth roi unrhyw gyngor neu gymorth uniongyrchol i'ch busnes - Os rydych wedi derbyn, neu'n bwriadu derbyn, cyngor neu gymorth gan unrhyw aelod o Dîm Twristiaeth neu Dîm Datblygu Busnes CBSCNPT, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Datblygu Economaidd CBSCNPT ar Wefan Busnes CNPT.

Digwyddiadau Ymdeimlad o Le - Os rydych wedi mynychu digwyddiad Ymdeimlad o Le, bydd gofyn i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol;

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Rhyw
  • Ydych chi'n siarad Cymraeg?
  • Enw eich busnes/sefydliad a'r wardiau y mae'n gweithredu ynddynt.

Ymarfer Mapio Datblygiad Busnesau - Os rydych wedi cwblhau holiadur gyda'r Gwasanaeth Twristiaeth, bydd gofyn i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol;

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Rhyw
  • Eich ystod oedran
  • Ydych chi'n siarad Cymraeg?
  • Enw eich busnes/sefydliad a'r wardiau y mae'n gweithredu ynddynt.
  • Gwybodaeth fanwl am weithrediad eich busnes

Cronfa Ffotograffau

Er mwyn cael mynediad at Gronfa Ffotograffau Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot, bydd angen i chi gwblhau cytundeb syml sy'n amddiffyn CBSCNPT rhag unrhyw golledion sy'n gysylltiedig ag atgynhyrchu ffotograffau'n anghyfreithlon. Fel rhan o'r cytundeb hwn, byddwch yn darparu'r wybodaeth ganlynol am eich busnes;

  • Enw cyswllt
  • Enw'r busnes/sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Côd Post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad y wefan

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth ac am ba mor hir y byddwn yn ei chadw

Byddwn yn prosesu'ch gwybodaeth ar y sail gyfreithiol ei bod hi'n angenrheidiol i ni berfformio tasg gyhoeddus wrth gyflwyno gwasanaethau datblygiad economaidd (gan gynnwys twristiaeth).

Caiff eich gwybodaeth ei chadw gyhyd ag y mae eich busnes/sefydliad yn cael ei leoli ac yn gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Os yw'ch busnes/sefydliad yn rhoi'r gorau i fasnachu, neu'n symud o'r fwrdeistref sirol, caiff eich gwybodaeth ei chadw am gyfnod digonol i ganiatáu i ni allu ymateb i unrhyw gwestiynau a allai godi o ganlyniad i hynny.

Os yw'ch busnes/sefydliad wedi derbyn arian grant, cedwir eich gwybodaeth fel uchod ac am hyd at chwe blynedd ychwanegol, yn unol â pholisi cadw dogfennau'r cyngor.

Os rydych wedi dewis derbyn eitemau newyddion perthnasol am y diwydiant twristiaeth gan CBSCNPT drwy restr bostio'r diwydiant twristiaeth, byddwch wedi rhoi caniatâd i ni brosesu'ch data. Byddwn yn parhau i gadw eich gwybodaeth am oes eich busnes/sefydliad neu nes i chi wneud cais i gael eich tynnu o'r rhestr bostio drwy e-bostio tourism@npt.gov.uk.

Pan na fydd angen eich gwybodaeth mwyach, caiff ei dinistrio'n ddiogel.

Sylwer ei bod hi'n ofynnol i ni gasglu data personol penodol yn unol â gofynion statudol ac yn yr achosion hyn gallai'r cyngor beidio â darparu gwasanaeth i chi a/neu gallwch fod yn atebol i achosion cyfreithiol os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth honno. 

  • Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 y GDPR, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol. 
  • Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.  Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym ni yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
  • Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Eich hawliau o ran eich gwybodaeth

Sylwer bydd gan unigolion yr hawliau canlynol mewn perthynas â'u data personol o dan y GDPR:

i.Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.

ii.Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.

iii.Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig). 

iv.Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).

v.Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.

vi.Yr hawl i drosglwyddo data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.     

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae CBSCNPT yn defnyddio'ch gwybodaeth neu os rydych am gysylltu â ni i wneud cwyn am ein defnydd o'ch gwybodaeth, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data CBSCNPT drwy'r cyfeiriad isod;

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ