Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Cyllid Pontio TSUK

1. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolydd Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a roddir gennych (at ddibenion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018)).

2. Bydd y Cyngor yn defnyddio'r data personol y byddwn yn eu casglu gennych (yn unol â chyflawni ei amrywiol swyddogaethau statudol a busnes) at y dibenion canlynol:

Galluogi busnesau'r gadwyn gyflenwi, a busnesau eraill y mae cynllun Tata Steel UK i newid i gynhyrchu dur gan ddefnyddio technoleg arc trydan ym Mhort Talbot wedi effeithio arnynt, i geisio cyllid er mwyn goresgyn heriau byrdymor yn ystod y cyfnod pontio, yn ogystal â helpu busnesau i newid ffocws er mwyn paratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu a chefnogi egin fusnesau newydd.

3. Mae GDPR y DU yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor, yn rhinwedd ei rôl fel y Rheolydd Data, roi gwybod i chi pa rai o'r “Amodau Prosesu Data” yn Erthygl 6 GDPR y DU y mae'n dibynnu arnynt i brosesu eich data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, fe'ch cynghorir ein bod yn dibynnu ar yr amod(au) canlynol yn Erthygl 6 mewn perthynas â'r data a roddir gennych:

“Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd." (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).

4. Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. personau/cyrff/endidau y tu allan i'r Cyngor) yn unol â threfniadau rhannu data sydd ar waith rhyngom ni a'r trydydd partïon hynny

  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Busnes Cymru
  • Y Gronfa Ddata Cymorthdaliadau

5. Bydd y Cyngor yn dal y wybodaeth bersonol a gesglir gennych am y cyfnod canlynol:

10 mlynedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben at ddibenion archwilio, a chaiff ei dinistrio mewn modd diogel wedi hynny.

6. Noder ei bod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol yn unol â gofynion statudol ac, mewn achosion o'r fath, os na rowch y wybodaeth honno i ni, y bydd yn bosibl na fydd y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi a/neu y gallech fod yn destun achos cyfreithiol.

7. Hoffem eich hysbysu bod gennych hawl yn unol ag Erthygl 21 GDPR y DU i wrthwynebu i'r Awdurdod ar unrhyw adeg ynglŷn â'r ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

8. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo dim o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd yr holl brosesu a wnawn ar eich data personol yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, yn Ardal Economaidd Ewrop neu mewn gwlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.

9. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

10. Fe'ch cynghorir bod GDPR y DU yn rhoi'r hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

  1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a ddelir gan reolydd data.
  2. Yr hawl i ddata anghywir gael eu cywiro gan reolydd ddata.
  3. Yr hawl i'w data gael eu dileu (dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
  4. Yr hawl i gyfyngu ar allu rheolydd data i brosesu eu data (dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
  5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael eu defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
  6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolydd data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

11. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am ein defnydd o'ch data personol, os byddwch am gael mynediad at y data hynny neu os byddwch am wneud cwyn ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y cyfeiriad canlynol: Cyfarwyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredol, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

12. Fe'ch cynghorir, os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 11 uchod) a'ch bod yn anfodlon ar ymateb y Cyngor, y bydd gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau i'w cael o wefan y Comisiynydd.