Dogfen
Hysbysiad Preifatrwydd - Arfarniad opsiynau Camlesi Tennant a Chastell-nedd - holiadur yr ymgynghoriad
1. Trwy ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych chi’n cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw Rheolydd Data’r holl wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu (at ddiben Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018) a’ch bod yn cydsynio i’r Cyngor ddefnyddio eich data personol at y dibenion ym mharagraff 2 isod.
Gan eich bod yn cydsynio i’r Cyngor ddefnyddio eich data personol, dylech wybod y gallwch dynnu eich cydsyniad i’r prosesu hwn yn ôl unrhyw bryd trwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig.
2. Bydd y data personol a gasglwn gennych yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (yn unol â chyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
Cyfrannu at Astudiaeth Ddichonoldeb arfarnu opsiynau i fwrw golwg ar ffyrdd o adfer ac adfywio camlesi Tennant a Chastell-nedd er budd pobl, lleoedd a’r amgylchedd.
3. Fel Rheolydd y Data, mae’n ofynnol i’r Cyngor, o dan GDPR y DU, roi gwybod i chi pa rai o “Amodau Prosesu Data” Erthygl 6 GDPR y DU y mae’n dibynnu arnynt i brosesu eich data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, o ran y data rydych chi’n ei ddarparu, dylech wybod ein bod yn dibynnu ar amod(au) canlynol Erthygl 6:
“Mae testun y data wedi cydsynio i brosesu ei data/ddata personol at un diben penodol neu fwy.” (Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU).
4. Opsiwn 2
Gallem rannu eich data personol yn ddiogel gyda’r trydydd partïon canlynol (h.y. personau/cyrff/endidau’r tu allan i’r Cyngor) yn unol â’r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda’r trydydd partïon hynny:
- AtkinsRealis (Contractwyr sy’n ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb ar ran y Cyngor)
- Ruth Garnault Consultancy Ltd
5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthoch yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o:
31 Mawrth 2025, diwedd prosiect Astudiaeth Ddichonoldeb Arfarniad Opsiynau Cysylltiadau Camlesi
6. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd nac i wlad arall heb benderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu’ch data personol yn cael ei gyflawni gennym yn y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.
7. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio’ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau yn awtomataidd.
8. O dan GDPR y DU, caiff unigolion yr hawliau canlynol o ran eu data personol:
- Hawl mynediad i’w data personol sy’n cael ei ddal gan reolydd data
- Yr hawl bod data anghywir yn cael ei gywiro gan reolydd data
- Yr hawl bod eu data’n cael ei ddileu (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol)
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolydd y data (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol)
- Yr hawl i wrthwynebu i’w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol
- Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolydd data arall)
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth
9. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am sut rydym yn defnyddio’ch data personol, os byddwch am gael mynediad iddo neu os hoffech gwyno am brosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
10. Os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data’r Cyngor (gweler 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, fe’ch cynghorir bod hawl gennych gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gael manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a rhagor o wybodaeth am eich hawliau o wefan y Comisiynydd