Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Datganiad Preifatrwydd - Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Cefndir

Mae gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Castell-nedd Port Talbot (PPP) wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, neu wrth gyflwyno dogfennaeth (gan gynnwys sylwadau ar geisiadau cynllunio a cheisiadau trwydded), yna gallwch fod yn sicr y bydd ond yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r datganiad preifatrwydd hwn.

Gall gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Castell-nedd Port Talbot newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd trwy ddiweddaru'r Datganiad Preifatrwydd hwn. Dylech wirio ein gwefan o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Daw’r polisi hwn i rym ar 18 Mai 2018.

Yr Hyn a Gasglwn

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a chyfeiriad
  • gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • gwybodaeth bersonol arall y gallech ei chyflwyno fel tystiolaeth ategol

er enghraifft:-

  • cais cynllunio neu gais adeilad rhestredig
  • Sylwadau yn ymwneud â pholisi cynllunio
  • cais am reoliadau adeiladu, hysbysiad o ddymchwel, gwaith anawdurdodedig, strwythurau peryglus, waliau cynnal neu ddiogelwch ar feysydd chwaraeon
  • cais am drwydded gyda gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd neu Safonau Masnach fel Tŷ Amlfeddiannaeth, gweithdrefnau arbennig, petroliwm a chofrestru busnesau bwyd.
  • gwybodaeth bersonol arall i fodloni gofynion iechyd a diogelwch / monitro grantiau ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau (h.y. i sefydlu ‘parodrwydd ar gyfer gweithgaredd).

Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth a gasglwn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a roddwch. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth arfer ein hawdurdod swyddogol yn unol ag ac fel y rhagnodir gan statud ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Ni fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon oni bai bod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Gallwn brosesu eich gwybodaeth bersonol a gasglwyd am y rhesymau canlynol:

  • fel rhan o’r cofnodion statudol sydd gennym o dan ddeddfwriaeth Sylfaenol a nodir yn Atodiad 1, ynghyd â’r holl is-ddeddfwriaethau a Rheoliadau eraill
  • fel rhan o ddarparu ein Gwasanaeth Cyngor Cyn Ymgeisio ar Gynllunio
  • fel rhan o'n Hymchwiliadau Gorfodi o dan y Deddfau a'r Rheoliadau y cyfeirir atynt uchod.
  • fel rhan o’n darpariaeth o’n gwasanaethau Tystysgrifau Cyn Prynu a Chwblhau
  • Gwasanaethau Gwerth Ychwanegol Rheoli adeiladu
  • fel rhan o ‘Rhestrau Dosbarthu’ sydd wedi’u hanelu at roi gwybodaeth i chi am Geisiadau, Polisïau a Gweithdrefnau Cynllunio / Rheoli Adeiladu / Iechyd yr Amgylchedd / Safonau Masnach, gan gynnwys gwybodaeth a/neu ganllawiau Cenedlaethol perthnasol i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’n galluogi i wella’r gwasanaethau a gynigiwn.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, ffôn, neu bost.

Mae unrhyw ddata personol a brosesir gan gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Castell-nedd Port Talbot yn cael ei wneud yn unol â gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (Rheoliad (UE) 2016/679).

Byddwn yn cadw'r wybodaeth hon yn unol â'n gofynion statudol.

Byddwn ond yn datgelu eich data personol pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu pan fydd gennym eich caniatâd, ac weithiau i’r canlynol:

  • yn fewnol ag adrannau eraill CBS Castell-nedd Port Talbot
  • sefydliadau/Awdurdodau Rheoleiddio sy'n ein cynorthwyo i ddarparu ein Gwasanaethau
  • eich cynrychiolwyr cyfreithiol
  • awdurdodau partner drwy Gynllun Awdurdod Partner LABC mewn perthynas â cheisiadau Rheoliadau Adeiladu

Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu a sicrhau'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Dolenni i Wefannau Eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych wrth ymweld â gwefannau o’r fath ac nid yw gwefannau o’r fath yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli eich Gwybodaeth Bersonol

Gallwch ddewis cyfyngu ar gasglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a/neu ofyn am ddileu gwybodaeth bersonol nad oes ei hangen ar gofrestr(au) statudol yr adran.

Os bydd unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio eich data personol, os ydych am gael mynediad at yr un data, neu i wneud cwyn am y casgliad, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

Atodiad 1

Cynllunio

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
  • Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015
  • Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004
  • Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994
  • Cyfarwyddeb CE 92/43/EEC ar Gadwraeth Cynefinoedd Naturiol a Ffawna a Fflora Gwyllt (Cyfarwyddeb Cynefinoedd)
  • Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

Rheoli Adeiladu

  • Deddf Adeiladu 1984
  • Rheoliadau Adeiladu 2010
  • Deddf Gorllewin Morgannwg 1987
  • Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975
  • Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987

Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach

  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003
  • Deddf Adeiladu 1984
  • Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960
  • Deddf Meysydd Carafanau 1968
  • Deddf Aer Glân 1993
  • Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005
  • Deddf Cwmnïau 2006
  • Deddf Rheoli Llygredd 1974
  • Deddf Ceirw 1991
  • Deddf yr Amgylchedd 1995
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
  • Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985
  • Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
  • Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
  • Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y’i diwygiwyd) ac unrhyw Orchmynion neu Reoliadau a Wnaed o dan y Ddeddf honno neu sy’n ymwneud â gadael effaith yn rhinwedd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
  • Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
  • Deddf Iechyd 2006
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974
  • Deddf Tai 1985, 1996 a 2004
  • Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Deddf Iawndal Tir 1973
  • Land Drainage Act 1991
    Deddf Landlordiaid a Thenant 1985
  • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
  • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a 1982
  • Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
  • Deddf Cymorth Gwladol (Diwygio) 1951
  • Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993
  • Deddf Sŵn 1996
  • Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949
  • Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002 a 2007
  • Deddf Diogelu rhag Troi Allan 1977
  • Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1936 a 1961
  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
  • Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (fel y'i diwygiwyd gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008) Deddf Iechyd y Cyhoedd (Draenio Mangreoedd Masnachol) 1937
  • Deddf Lladd-dai 1974
  • Deddf Lladd Dofednod 1967
  • Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010
  • Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) Rheoliadau 2011
  • Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
  • Deddf Gorllewin Morgannwg 1987
  • Deddf Asiantaethau Llety 1953
  • Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1970 a 1985
  • Deddf Amaethyddiaeth 1970
  • Deddf Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 - 1931
  • Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968
  • Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
  • Deddfau Iechyd Anifeiliaid 1981 a 2002
  • Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984
  • Deddf Lles Anifeiliaid 2006
  • Deddf Canser 1939
  • Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933
  • Deddf Plant a Phobl Ifanc (Diogelu rhag Tybaco) 1991
  • Deddfau Cwmnïau 1985 a 2006
  • Deddf Credyd Defnyddwyr 1974 a 2006
  • Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
  • Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987
  • Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010
  • Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014
  • Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatent 1988
  • Deddf Hawlfraint ac ati a Nodau Masnach (Troseddau a Gorfodi) 2002
  • Deddf Ymdrechion Troseddol 1981
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 a.141 a 141A
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (Pennod 2)
  • Deddf Cyfraith Droseddol 1977
  • Deddf Datblygu Twristiaeth 1969
  • Deddfau Cŵn 1906 a 1928
  • Deddf Diwygio Addysg 1988 (a. 214 a 215)
  • Deddf Ynni 1976
  • Deddf Menter 2002
  • Deddf Gwerthwyr Tai 1979
  • Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
  • Deddf Ffrwydron 1875
  • Deddf Cemegau Fferm a Gardd 1967
  • Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005
  • Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005
  • Deddf Tân Gwyllt 2003
  • Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010
  • Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985 (Awdurdodi drwy'r ASB yn unig)
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (a.32) a Gorchmynion a Rheoliadau perthnasol a wnaed o dan neu sy'n ymwneud â'r hyn sy'n cael ei roi neu sy'n cael effaith yn rhinwedd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
  • Deddfau Ffugio 1981 a 1988
  • Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005
  • Deddf Twyll 2006
  • Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
  • Deddf Dilysnodau 1973
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 (Adran 20(2)(a), (b), (c), (d), (e), (f), (g), (h), (i), (j), (k), (l); Adrannau 21,22, 25,38 a 39
  • Deddf Priffyrdd 1980
  • Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997
  • Deddf Sylweddau Meddwol (Cyflenwad) 1985
  • Deddf Cyllyll 1997
  • Deddf Trwyddedu 2003
  • Deddf Cyfathrebiadau Maleisus 1988
  • Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012
  • Deddf Meddyginiaethau 1968 (a.111)
  • Deddf Beiciau Modur (Sŵn) 1987
  • Deddf Cerbydau Modur (Offer Diogelwch i Blant) 1991
  • Deddf y Loteri Genedlaethol 1993
  • Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid (Cymru) 2009
  • Deddf Arfau Sarhaus 1996 (a.6)
  • Deddf Symbolau Olympaidd ac ati (Amddiffyn) 1995
  • Deddf Plaladdwyr (Ffioedd a Gorfodi) 1989
  • Deddf Petrolewm (Cydgrynhoi) 1928
  • Deddf Petrolewm (Trosglwyddo Trwyddedau) 1936
  • Deddf Gwenwynau 1972
  • Deddf Prisiau 1974
  • Deddf Elw Troseddau 2002
  • Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1936 a 1961
  • Deddf Dyluniadau Cofrestredig 1949
  • Deddfau Traffig Ffyrdd 1974, 1988 a 1991
  • Deddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988
  • Deddf Traffig Ffyrdd (Cerbydau Tramor) 1972
  • Deddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988
  • Rheoliadau Cynhyrchion penodol o Tsieina (a Rhoddi Cyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008
  • Deddf Telathrebu 1984
  • Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002
  • Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011
  • Deddf Nodau Masnach 1994
  • Deddf Nwyddau a Gwasanaethau Digymell 1971 a 1975
  • Deddf Cerbydau (Trosedd) 2001
  • Deddfau Recordiadau Fideo 1984, 1993 a 2010
  • Deddfau Pwysau a Mesurau 1976 a 1985
  • Deddf Lles Anifeiliaid wrth eu Lladd 1991