Hafan Cymru
Cymorth Cartref - Stori
Darparu cefnogaeth hyblyg, wedi’i theilwra sy’n troi o gwmpas y rhieni a’r teulu, ac a fydd yn grymuso rhieni i greu bywyd mwy cadarnhaol a chynaliadwy i’r teulu, gan gefnogi eu hanghenion eu hunain ac anghenion y plant a’r bobl ifanc yn eu gofal yn llawn.
Bydd cymorth yn cael ei ddarparu yng nghartref y teulu, gyda ffocws canolog ar oresgyn rhwystrau, a gallai helpu gyda threfn bore/amser gwely, prydau bwyd y teulu, siopa bwyd/cyllidebu, diogelwch sylfaenol yn y cartref a chefnogaeth i gael mynediad i grwpiau yn y gymuned.
Gall atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth gael eu gwneud trwy’r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686802 spoc@npt.gov.uk ac maen nhw ar gael i deuluoedd sydd ddim angen cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r holl atgyfeiriadau’n cael eu trosglwyddo i banel atgyfeirio yn wythnosol, a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth sy’n cyfateb orau i’w hanghenion.