Tîm o Amgylch y Teulu
Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu ar gyfer teuluoedd sydd eisiau gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywyd teuluol, ond sydd angen cefnogaeth i wneud hynny.
Mae’n dod ag amrywiaeth o bobl ac asiantaethau ynghyd sy’n gweithio gyda’r teulu cyfan.
Rydyn ni’n darparu gwasanaethau i deuluoedd lle mae:
- Aelod 0-25 oed o’r teulu
- Anawsterau wedi cael eu nodi sy’n galw am help gan 2 asiantaeth neu fwy, e.e. ysgol, iechyd, tai.
- Gwasanaethau cymdeithasol heb ymwneud â’r sefyllfa.
Gallwch chi gael atgyfeiriad i Tîm o Amgylch y Teulu gan weithiwr proffesiynol arall sy’n adnabod eich teulu, fel Athro, Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd, Gweithiwr Ieuenctid, neu gallwch chi atgyfeirio eich hunan.
Y nod yw cefnogi teuluoedd i wneud y newidiadau angenrheidiol i wella’u bywydau a byw’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.