Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mathau a Manteision Gofal Plant

Mathau o Ofal Plant
Mae pob plentyn a theulu’n wahanol – ond yn sicr mae dewis gofal plant ar gael i bawb!

P'un a ydych yn chwilio am ofal plant mewn grŵp, neu eisiau gofal un-i-un i'ch plentyn, darllenwch y wybodaeth isod i gael gwybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Mae meithrinfeydd dydd cofrestredig yn cynnig gofal dydd llawn i fabanod a phlant hyd at 5 oed.

Maent yn aml yn cynnig gofal dechrau a diwedd dydd ychwanegol gyda chlybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol i blant hyd at 12 oed, sy'n gwneud bywyd yn haws i rieni. Mae lleoliadau gofal dydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall costau amrywio ac efallai y gallwch gael cymorth i dalu am ofal plant. Gwiriwch a ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Cynhwysol.

Darparwyr gofal plant proffesiynol sydd wedi'u cofrestru gydag AGGCC yw gwarchodwyr plant ac maent yn darparu gofal a chyfleoedd dysgu i blant o 6 wythnos hyd at 12 oed.

Maent yn gweithio gartref gan ddarparu amgylchedd teuluol i'r plant y
maent yn gofalu amdanynt.

  • Gall gwarchodwyr plant ddarparu gofal hyblyg i deuluoedd am
    eu bod yn edrych ar ôl niferoedd llai o blant,
  • a gallant gynnig sylw unigol wrth helpu'r plentyn i ddatblygu, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau.

Yn aml, gallant gasglu plant o'r ysgol neu leoliadau eraill, a'u gollwng.

Mae cylchoedd chwarae cyn ysgol cofrestredig a Chylchoedd Meithrin yn cynnig gweithgareddau fel bod plant yn gallu dysgu wrth chwarae gyda phlant eraill, fel arfer yn eu cymunedau lleol eu hunain.

Mae Cylchoedd Meithrin yn hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae cylchoedd chwarae cyn ysgol ar agor ar gyfer sesiynau yn y bore neu yn y prynhawn yn unig, am rhwng 2 a 4 awr, hyd at 5 niwrnod yr wythnos. Mae'r mwyafrif o'r plant rhwng 2½ oed a 5 oed; er ei bod hi'n bosibl iddynt dderbyn rhai plant 2 oed.

Gweithredir y mwyafrif o leoliadau cyn ysgol yn ystod y tymor yn unig. Gall leoliadau cyn ysgol gael eu rheoli'n breifat neu'n wirfoddol.

Bydd staff hyfforddedig a phrofiadol yn gweithio gyda'r plant. Bydd gwirfoddolwyr a rhieni'n helpu'n aml. Maent yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant gan ddarparu cyfleoedd iddynt chwarae a dysgu.

Caiff plant fynediad at le mewn dosbarth meithrin rhan amser mewn ysgol o ddechrau'r tymor sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair blwydd oed neu'r diwrnod sy'n dilyn ei ben-blwydd yn dair oed ar gyfer isafswm o 10 awr yr wythnos, sydd fel arfer yn gyfwerth â blwyddyn ysgol os oes digon o le yn y feithrinfa.

Rôl nani yw edrych ar ôl pob agwedd ar les plentyn yng nghartref y plentyn. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys:

  • Darparu amgylchedd diogel, difyr ac ysgogol i blant wrth
    gynllunio a chefnogi gweithgareddau chwarae ac addysgol.
  • Cludo plant i'r feithrinfa ac i'r ysgol ac yn ôl, mynd â phlant
    i apwyntiadau a gweithgareddau a threfnu cyfleoedd iddynt
    chwarae gyda phlant eraill.
  • Darparu prydau bwyd a glanhau ystafelloedd gwely,
    ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd chwarae plant.

Amgylchedd llawn hwyl ac ysgogol ar gyfer plant cyn oed ysgol a'u gofalwyr yn y gymuned leol. Cyfle i rieni, gofalwyr a theidiau a neiniau gymysgu ag eraill, wrth i'w plant wneud ffrindiau a phrofi amrywiaeth o weithgareddau, megis crefftau, canu a
rhigwm a gweithgareddau corfforol.

Bydd y sesiwn yn para am 2 awr fel arfer, mae'r rhieni'n aros gyda'r plant felly nid oes angen cofrestru gydag AGGCC.

Mae clybiau cofrestredig y tu allan i'r ysgol yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol neu'n agos atynt.

Mae clybiau y tu allan i'r ysgol yn cynnwys:

  • Clybiau ar ôl ysgol - mae llawer o glybiau'n cynnwys
    gwasanaeth casglu o ysgolion lleol.
  • Clybiau gwyliau - ar agor yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Clybiau brecwast - yn cynnig brecwast i blant gyda ffrindiau,
    cyn diwrnod prysur yn yr ysgol.


Mae clybiau y tu allan i'r ysgol yn amgylchedd hamddenol lle gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau, gwneud eu gwaith cartref a mwynhau amser gyda'u ffrindiau.

Gall costau gofal plant amrywio ac efallai y byddwch yn gallu hawlio cymorth er mwyn talu am gostau gofal plant. Gwiriwch a ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Cynhwysol.

Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch wrth ddod o hyd iofal plant neu os oes angen cymorth gyda materion ariannol arnoch, ewch i'n gwefan neu gysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Manteision Gofal Plant

Er y gall dewis gofal plant godi ofn ar lawer o rieni, mae tystiolaeth glir y bydd plant yn elwa yn y tymor hir.

Mae gofal plant yn cynnig manteision cymdeithasol, emosiynol ac addysgol hirdymor i blant a’u rhieni/gofalwyr.

Isod nodir rhai o fanteision defnyddio gofal plant.

Mae lleoliadau gofal plant o safon uchel yn annog plant i feithrin perthnasoedd ymddiriedus â'u ffrindiau, eu staff a'u rheini.

Er mwyn dysgu'r sgiliau hyn, mae angen i blentyn deimlo'n ddiogel gyda'r oedolion sy'n ei gefnogi. Mae staff gofal plant wedi'u hyfforddi i ddatblygu sgiliau emosiynol a rhyngweithiad y plentyn a hyrwyddo meddwl holgar.
I helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol plant, byddant yn dysgu sut i reoli eu teimladau a'u rhyngweithiad ag eraill drwy fodelau rôl.

Mae plant yn dysgu llawer wrth dreulio amser gyda phlant eraill, nid oes unrhyw beth tebyg i'r cyffro y mae perthnasoedd ifanc yn eu cynnig.

Mae lleoliadau gofal plant yn cefnogi plant i ddeall yr angen am strwythur a threfn. Mae'n dda i blant ifanc gael strwythur o ran eu diwrnod, gan eu helpu i wneud ffrindiau a chwarae'n dda gydag eraill.

Bydd staff tra hyfforddedig yn trefnu a strwythuro drwy'r dydd, sy'n cefnogi ffiniau cadarnhaol fel bod pob plentyn yn cael hwyl ac yn mwynhau ei amser gydag eraill, gan hyrwyddo cymdeithasoli a dysgu.

Bydd lleoliadau gofal plant yn gweithio mewn partneriaeth â rheini wrth hyrwyddo hyfforddiant i ddefnyddio poti a thoiled, gan roi cefnogaeth lle gallent fod yn wynebu amser heriol. Bydd plant yn aml yn ystyried eu cyfoedion fel modelau rôl a byddant yn derbyn cefnogaeth gan eu ffrindiau.

Gall y lleoliad weithio gyda'r rhieni, drwy gytuno pryd i ddechrau hyfforddiant toiled. Byddant yn ystyried anghenion y plentyn, yn osgoi unrhyw newidiadau eraill megis brawd neu chwaer newydd, ysgol newydd neu leoliad gofal plant newydd.

Mae staff yn croesawu ac yn annog rhieni i rannu eu pryderon ynghylch datblygiad neu broblemau wrth hyfforddi plant.

Mae lleoliadau gofal plant yn cynnig ystod eang o gemau a
gweithgareddau i annog dysgu drwy chwarae er mwyn datblygu cariad at eiriau a rhifau'n gynnar.

Bydd y staff gofal plant yn cynllunio gweithgareddau megis teithiau cerdded drwy'r goedwig er mwyn dod o hyd i adnoddau naturiol sy'n dechrau gyda llythyren, neu weithgaredd lle bydd y plant yn marcio eu henwau yn y mwd neu'r tywod er mwyn datblygu sgiliau darllen ac
ysgrifennu.

Mae plant yn dysgu orau pan maent yn cael hwyl, er enghraifft, drwy ddefnyddio blociau pren i gyfrif, casglu dwr glaw i fesur neu drwy baru lliwiau gan ddefnyddio paent. Mae pob gweithgaredd wedi'i ddylunio i ddatblygu dealltwriaeth plant o rifau.

Mae staff gofal plant wedi'u hyfforddi i gynllunio gweithgareddau sydd yn gymaint o hwyl â phosib a dysgu mewn ffyrdd y mae'r plant yn eu mwynhau ac yn eu deall.

Mae'r staff sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant yn cymryd amser i ddod i
adnabod pob plentyn a meithrin eu chwilfrydedd drwy hyrwyddo gweithgareddau y maent yn eu mwynhau.

Mae gan blant ifanc ddychymyg bywiog ac yn aml maent yn defnyddio'u dychymyg er mwyn dysgu drwy chwarae. Mae pob math o chwarae'n annog
meddwl chwilfrydig, o neidio mewn pyllau mwdlyd i roi briciau Lego at ei gilydd.

Mae llawer o rieni'n chwilio am leoliad gofal plant sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw wrth helpu i baratoi eu plant ar gyfer y camau nesaf, boed hynny'n ysgolion meithrin neu'n ysgolion. Os yw rhieni'n cymryd rhan yn natblygiad a dysgu eu plant, bydd profiad dysgu'r plant yn fwy pleserus a buddiol.

Mae darparwyr gofal plant o safon yn rhoi'r offer y bydd ei angen ar y plant er mwyn iddynt ddatblygu fel unigolion. Mae'r staff yn dra hyfforddedig ac maent yn cymryd rôl weithgar wrth ddysgu'r sgiliau y mae eu hangen ar y plant er mwyn iddynt ddatblygu a thyfu. Mae pob plentyn yn cael ei roi ar ei lwybr ei hun i lwyddiant

Manteision bod yn ddwyieithog

Mae yna lawer o fuddion a manteision i fod yn ddwyieithog. Mae astudiaethau ac ymchwil wedi dangos bod plant sy’n medru dwy iaith yn gallu bod yn fwy amryddawn, yn fwy creadigol yn eu meddwl ac yn gallu dysgu ieithoedd eraill yn haws.

Pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref, gall addysg gyfrwng Gymraeg, gan ddechrau o oedran ifanc, roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ddwyieithog trwy ei strategaeth Gymraeg ‘Cymraeg 2050’ gyda’r gweledigaeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae mwy o alw nag y bu erioed o’r blaen am sgiliau dwyieithog mewn amryw faes, megis iechyd, addysg, hamdden, gofal plant, manwerthu a gwasanaethau cyhoeddus.

Cymraeg 2050 Miliwn o Siaradwyr 

Adnoddau

Dysgu Cymraeg

Mae yna amrywiaeth o gyrsiau i ddysgu Cymraeg dros wahanol lefelau i oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.