Cefnogaeth Magu Plant
Rhaglenni magu plant
Dyna pam rydym yn cynnal rhaglenni magu plant, a all gynnwys pynciau megis:
- hyrwyddo magu plant yn gadarnhaol
- rheoli ymddygiad plant ac ymdopi ag ef
- datblygu trefn
- hyfforddi i ddefnyddio'r toiled
- problemau cysgu
- materion magu plant cyffredin eraill
Wyneb yn wyneb a sesiynau i grwpiau
Yn ogystal â'r sesiynau i grwpiau, mae croeso i chi siarad â staff Dechrau'n Deg wyneb yn wyneb er mwyn trafod unrhyw agwedd ar fagu plant. Os byddwch yn dymuno gellir eu trefnu fel rhan o grŵp cymunedol neu yn eich cartref eich hun.
Gwybodaeth am dechrau'n deg
Am wybod mwy am yr hyn mae Dechrau'n Deg yn ei wneud a’r hyn y maent yn ei drefnu? Wel, dyma chi...manylion am Dechrau'n Deg i'w cael yma.
Tîm magu plant
Mae’r Tîm Magu Plant yn gweithio mewn rhai ardaloedd yn CBSCNPT. Gweler isod yr aelod tîm sy’n gweithio yn eich ardal:
Am wybodaeth gyffredinol, cysylltwch â ni ar
Fsparenting@npt.gov.uk