Prosiectau Yovo
Prosiect Lleisiau Bach
Mae aelodau Yovo wedi ymuno â'r Arsyllfa Hawliau Dynol i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc mewn gofal yn cael eu parchu, eu hamddiffyn a'u gwireddu. Cododd aelodau Yovo faterion oedd yn bryder i blant a phobl ifanc mewn gofal a gwneud gwaith ymchwil a gafodd ei gyflwyno i Gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot. Bellach, mae Yovo'n gweithio i newid arferion a gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Cafodd llwyth o pizza ei sglaffio hefyd!
Beth nesa?
Prosiect nesa Yovo fydd helpu gydag ymwybyddiaeth o dementia. Mae gan Yovo gynlluniau i weithio gyda chartref gofal yr henoed yn lleol a threfnu nosweithiau gêmau a nosweithiau ffilm. Cafodd y bobl ifanc grant gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS) i brynu gêmau i'w chwarae gyda'r henoed ac maen nhw hyd yn oed yn cynllunio nifer o ddigwyddiadau gwerthu cacennau i godi arian ar gyfer elusen dementia. Byddwn ni'n dysgu sgiliau cyllidebu, yn cyfrifo elw a cholled, yn hysbysebu, yn gwerthu a llawer mwy.