Gofalwyr ifanc
Beth yw gofalwr ifanc?
Mae gofalwr ifanc yn blentyn neu berson ifanc o dan 25 oed sydd â rôl ofalu gartref. Gall fod yn gofalu am riant, brawd, chwaer neu aelod arall o'r teulu.
Mae gofalwyr ifanc yn gofalu am lawer o resymau gwahanol, gall fod oherwydd salwch, anabledd, iechyd meddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol neu oherwydd henaint.
Beth mae gofalwyr ifanc yn ei wneud?
Bydd gofalwyr ifanc yn aml yn gwneud mwy o dasgau yn y cartref na phlant eraill, efallai byddi di’n gwneud y pethau yma:
- Gwaith tŷ
- Siopa am fwyd
- Helpu rhywun i ymolchi a gwisgo
- Rhoi cymorth emosiynol