Cyngor Ieuenctid Castell-Nedd Port Talbot
Pwy ydyn nhw?
Grŵp o bobl ifanc o Gastell-nedd Port Talbot sydd rhwng 11 a 25 oed yw Cyngor Ieuenctid CNPT, sy'n mynd gam ymhellach i hyrwyddo Hawliau Plant drwy rymuso pobl ifanc i ddweud eu dweud a dylanwadu ar newid yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Beth maen nhw'n ei wneud?
Mae'r Cyngor Ieuenctid yn cwrdd â phenderfynwyr yn lleol i fynegi eu barn, cyfoethogi prosesau gwneud penderfyniadau, rhannu safbwyntiau a chymryd rhan fel dinasyddion gweithredol, gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr a hwyluswyr newid. Fel rhan o'i waith, mae'r Cyngor Ieuenctid yn cwrdd ag aelodau etholedig bob tri mis ac yn deisebu cynghorwyr yn effeithiol ar ran pobl ifanc sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae aelodau'r Cyngor Ieuenctid hefyd yn ymwneud â'u cymunedau ac yn cymryd rhan mewn prosesau democrataidd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae gan y cyngor gynrychiolwyr ar Banel Ieuenctid y BAE (Panel Ymgynghorol Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) a Senedd Ieuenctid y DU, ac maent yn Llysgenhadon Ifanc gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Ieuenctid Prydain.
Maent wedi cael effaith mesuradwy dros y blynyddoedd fel eiriolwyr brwd dros y rheini sy'n ddiamddiffyn neu'n llai galluog i siarad drostynt hwy eu hunain drwy greu cyfleoedd i bobl ifanc gyfranogi fel aelodau etholedig a chael llais e.e. LGBTQ+, BAME, Plant sy'n Derbyn Gofal a Gofalwyr Ifanc.
Yn 2018, llwyddodd y Cyngor Ieuenctid i ennill gwobr genedlaethol i gydnabod eu gwaith eithriadol ar hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc. Cyflwynwyd y wobr i aelodau'r Cyngor Ieuenctid am 'Hyrwyddo Hawliau Pobl Ifanc' yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru nos Wener 29 Mehefin 2018.
Sut i gymryd rhan?
Cynhelir etholiadau democrataidd y Cyngor Ieuenctid bob dwy flynedd. Mae creu cyfleoedd er mwyn i grwpiau â diddordeb arbennig gymryd rhan yn allweddol, ac mae cyngor ieuenctid 2019-2021 yn gorff bywiog, cynhwysol a chynrychioliadol yn CBSCNPT.