Draeniad Cynaliadwy Trefol
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn annog defnydd o Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SUDS), ar gyfer datblygiadau newydd oherwydd gallant chwarae rhan fawr wrth lywio siâp cymdogaethau o safon, creu gwarchodfeydd natur a chreu manteision tirlunio ac amwynderau. Byddai hyn yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer hamdden, chwarae ac addysg mewn mannau agored.
Bydd yn rhoi cyfle i gynorthwyo gydag ecoleg ardal gan fod tystiolaeth wedi dangos bod bywyd gwyllt yn ffynnu mewn SUDS sydd wedi'u dylunio'n dda ac mae'n arwyddocaol wrth fynd i'r afael â materion tirlunio a draenio. Ynghyd â hyn, gallant gyflwyno dulliau draenio cost effeithiol y gellir eu defnyddio ar gyfer ystod eang o ddatblygiadau gwahanol a chyfrannu at ddiogelu a gwella safon dŵr y ddaear.
Felly, mae'r canllaw isod wedi'i lunio ar gyfer y fwrdeistref gyfan, gyda'r holl gynlluniau a gyflwynir yn cael eu trafod gan dri thîm a nodwyd yn y cyflwyniad i'r Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd.