Dogfen
Adroddiad ymchwilio i lifogydd digwyddiad 16 Chwefror 2020 Heol y Farteg, Ystalyfera
Rhagarweiniad
Cyflawnwyd ymchwiliad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol mewn ymateb i'r llifogydd a gafwyd yn Heol y Farteg, Ystalyfera ar 16 Chwefror 2020. Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb o'r ymchwiliad ac mae'n cynnwys gwybodaeth berthnasol sy'n ofynnol i fodloni'r gofynion statudol a osodwyd ar yr awdurdod gan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae gwybodaeth am y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a osodwyd ar yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) i ymchwilio i lifogydd ar gael yn Atodiad A.
Un o ofynion Adran 19 yw bod yn rhaid i adroddiad ymchwiliad nodi gan ba Awdurdodau Rheoli Peryglon (ARhP) y mae swyddogaethau rheoli perygl llifogydd. Mae Atodiad B yn cynnwys crynodeb o rolau a chyfrifoldebau'r ARhP yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Drwy'r broses ymchwilio, penderfynwyd mai'r ARhP perthnasol ar gyfer y llifogydd a gafwyd yn Heol y Farteg yw:
- CBSCNPT fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol
- CBSCNPT fel yr Awdurdod Priffyrdd
- Dŵr Cymru fel y cwmni dŵr
Yn ogystal, canfuwyd bod nifer o berchnogion/ddatblygwyr tir a'r rhai â chyfrifoldebau glannau afon am gyrsiau dŵr hefyd yn berthnasol yn yr achos hwn.
Digwyddodd y llifogydd yn Heol y Farteg, Ystalyfera am tua 00:30 ddydd Sul 16 Chwefror 2020 yn dilyn cyfnod o law hir a thrwm a ddechreuodd ddydd Sadwrn 15 Chwefror am tua 03:00 ac a ddaeth i ben ddydd Sul 16 Chwefror am 07:00.
Cynhaliwyd camau ymateb brys gan CBSCNPT i helpu i leihau'r perygl o lifogydd. Mae CBSCNPT wrthi'n gweithredu nifer o ddulliau lliniaru llifogydd er mwyn amddiffyn preswylwyr rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae pob awdurdod rheoli risg yn ymwybodol o argymhellion yr adroddiad blaenorol ac yn ymwybodol o unrhyw argymhellion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.
Crynodeb o Ddigwyddiadau 2016
Yn 2016, cynhaliwyd ymchwiliad gan CBSCNPT mewn ymateb i'r llifogydd a ddigwyddodd ar 3 Medi 2016 yn Heol y Farteg, Ystalyfera. Yn dilyn glaw trwm a hir, dioddefodd deunaw eiddo ar hyd Heol y Farteg ac un tŷ allan ar Heol Ynysydarren lifogydd mewnol.
Anogir darllen adroddiad 2016 ar y cyd â’r canfyddiadau y manylir arnynt yn y canlynol.
Yn 2016, daeth CBSCNPT i'r casgliad bod system ddraenio allweddol a ddangoswyd yn ffigur 12 Cysylltiad A i B wedi'i thorri wrth adeiladu safle’r siop Asda gerllaw, sef un o'r ffactorau allweddol a wnaeth gyfrannu at lifogydd yr eiddo ar hyd Heol y Farteg. Roedd dŵr y bwriadwyd ei gludo drwy'r cwlfer yn cael ei ryddhau i'r tir yn lleoliad safle Asda, drwy drylifiad a gwasgariad. O ganlyniad, roedd y rhwydwaith draenio presennol yn gweithredu fel tanc gwanhau yn unig.
Nododd ymchwiliadau hefyd gwymp rhannol ar gwlfer arall ar dir preifat oddi ar Heol Ynysydarren a gafodd effaith sylweddol ar ddifrifoldeb y llifogydd. Roedd y dŵr a oedd yn gorlenwi siambr archwilio gyfagos yn y briffordd yn llifo drwy Stad y Farteg i'r pwynt isel yng nghyffordd Ynysydarren a Heol y Farteg.
Cyflwynwyd mesur lliniaru gan CBSCNPT a oedd yn cynnwys adeiladu gorsaf bwmpio dros dro ar linell cwlfer Asda a oedd wedi'i rwystro. Ar hyn o bryd mae'r system yn pwmpio dŵr wyneb i system draenio priffyrdd yr A4067, ac o ganlyniad mae ei heffeithiolrwydd, wrth ymdrin â glaw trwm, yn gyfyngedig.
Mae Tabl 1 isod yn dangos y camau gweithredu a argymhellir sy'n deillio o adroddiad 2016.
Rhif | Gweithredu gan | Cam gweithredu | Camau gweithredu hyd yma |
---|---|---|---|
1 | Perchennog tir/Datblygwr Asda |
Datrys problem y draenio coll |
Mae ymchwiliadau'n parhau. Mae'r awdurdod yn datblygu achos busnes ochr yn ochr â gohebiaeth â rhanddeiliaid er mwyn dod o hyd i ateb priodol |
2 |
Perchnogion Eiddo |
Ystyried y perygl o lifogydd i'w heiddo eu hunain | Mae'r awdurdod wedi rhoi mesurau cydnerthedd eiddo ar waith mewn eiddo yn Heol y Farteg |
3 | DCWW - Dŵr Cymru Welsh Water | Sicrhau bod carthffosydd cyhoeddus ar y cyd â rhai dŵr wyneb yn gweithredu'n effeithlon | Ni chanfuwyd unrhyw broblemau wrth ymchwilio i uniondeb y rhwydwaith carthffosydd. Aeth dŵr ychwanegol o gwlfer Ynysydarren i mewn i'r rhwydwaith gan achosi i'r system garthffosydd orlenwi |
4 | Perchnogion Tir | Cael gwared ar unrhyw rwystrau mewn cwrs dŵr os deuir o hyd i rai |
Fel ALlLlA, mae'r awdurdod wedi defnyddio ei bwerau draenio tir i orfodi cael gwared ar rwystrau ar dir preifat. Mae'r awdurdod wedi prynu tir ger Heol Ynysydarren i ddatblygu gwelliannau i'r rhwydwaith draenio. |
Llifogydd
Lleoliad y llifogydd
Mae Heol y Farteg yn ne ward etholiadol Ystalyfera yng Nghwm Tawe uchaf. Mae Cwm Tawe uchaf yng ngogledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Y glawiad a dadansoddiad ohono
Rhwng 03:00 ddydd Sadwrn 15 Chwefror a 07:00 ddydd Sul 16 Chwefror disgynnodd glaw parhaus ar draws y fwrdeistref sirol a barhaodd tua 27 awr, gan gyrraedd uchafbwynt mewn dwysedd yn gynnar ar fore Sul tua 02:00. Mae Heol y Farteg yn nalgylch afon Tawe, a chafodd y dalgylch hwn ynghyd â dalgylch afon Nedd y lefelau uchaf o law dros y 2 ddiwrnod.
Mae dalgylch afon Tawe tua 26,877ha o ran maint ac mae'n cynnwys rhannau o Fannau Brycheiniog sy'n draenio drwy nifer o gyrsiau dŵr cydnabyddedig ar eu llethrau deheuol cyn eu bod yn cydgyfarfod ar afon Tawe ger Glyntawe. Mae Ffigur 2 isod yn dangos maint y dalgylch gyda lleoliad Heol y Farteg wedi'i labelu.
Mae'r lefelau glaw trwm cyfartalog a gwympodd yn y fwrdeistref yn ystod cyfnod o 6 diwrnod i'w gweld yn Ffigur 3. Mae'n dangos sut y cwympodd glaw cyson am 3 diwrnod yn arwain at y penwythnos cyn cynyddu mewn dwysedd am 2 ddiwrnod. Mae'n dangos pa mor uchel oedd y lefelau glaw cyfartalog yn ystod dydd Sadwrn a dydd Sul. Dros 2 ddiwrnod y storm, cyfrifwyd bod 61.3mm o law ar gyfartaledd wedi glanio o fewn ffin y sir dros gyfnod o 48 awr.
Crynodeb o ddadansoddiad y glaw yn CBSCNPT:
- Dangosodd data a gofnodwyd o ddydd Sadwrn 15 fod y glaw yn amrywio o 113mm i 40mm yn y cyfnod 24 awr ar draws y dalgylch, ar gyfartaledd o 76.5mm.
- Dangosodd data a gofnodwyd o ddydd Sul 16 fod y glaw yn amrywio o 63mm i 29mm yn y cyfnod 24 awr ar draws y dalgylch, ar gyfartaledd o 46mm.
Mae Ffigur 4 yn dangos maint y glaw trwm a gwympodd ar ardal Ystalyfera. Mae'r data hydrograff glaw o waith trin carthffosiaeth Glan-rhyd 1km i'r gogledd-ddwyrain o Heol y Farteg ac mae'n dangos sut gwnaeth y glaw cynyddu'n raddol o ran dwysedd o brynhawn dydd Gwener hyd at y llifogydd ddydd Sul am 00:30 o'r gloch.
Mae crynodeb o ddadansoddiad y glaw yn Ystalyfera yn dangos:
- Dydd Gwener – 15:00, gostyngodd y glaw ar uchafswm o 3.4mm yr awr.
- Bore Sadwrn – 11:00, cynyddodd y glaw i 5.4mm yr awr.
- Nos Sadwrn – 23:00, cynyddodd y glaw ymhellach i 8.4mm yr awr.
- Bore Sul – 02:00, cyrhaeddodd y glaw uchafbwynt o 12.2mm yr awr.
Ar draws dydd Sadwrn a dydd Sul, ymatebodd yr awdurdod i lawer o alwadau a oedd yn gysylltiedig â llifogydd ar draws y fwrdeistref, ac ymatebodd y staff brys sydd ar ddyletswydd 'y tu allan i oriau' iddynt. Fodd bynnag, am tua 00:30 ddydd Sul 16 Chwefror, aeth y llifddwr cyntaf i mewn i eiddo ar Heol y Farteg.
Mae'n bwysig nodi bod y llifddwr wedi parhau i godi am gyfnod o tua phedair awr gyda'r eiddo cyntaf yn adrodd am lifogydd am 00:30 a'r olaf am 04:00. Deellir hefyd nad oedd y llifddwr wedi gostwng tan tua hanner dydd ddydd Sul, y diwrnod canlynol.
Hyd a lled y llifogydd
Dioddefodd cyfanswm o 29 eiddo lifogydd mewnol ar 16 Chwefror yn Ystalyfera, gan gynnwys 27 ar Heol y Farteg, 1 ar Ffordd Emlyn ac 1 tŷ allan ar Heol Ynysydarren.
Mae Ffigur 5 isod yn dangos yr eiddo hynny.
Nodweddion y safle
Mae ardal breswyl Stad y Farteg a'r ardal amgylchynol yn rhan o orlifdir afon Tawe yn Ystalyfera. Mae dalgylch y Farteg yn mesur oddeutu 400m ar y pwynt lledaenaf, ac mae'n cynnwys ardal o oddeutu 10 hectar.
Mae topograffi'r ardal yn gymharol wastad, gan amrywio mewn lefel rhwng 62.9m a 56.6m uwchben y datwm ordnans. Mae'r ail ar ei bwynt isaf o gwmpas cyffordd Heol y Farteg ac Ynysydarren. Mae afon Tawe yn ffinio'r safle i'r de-ddwyrain, a cheir llethr serth ac arglawdd yr A4067 i'r gogledd-orllewin. Mae'r ddaeareg arwynebol waelodol yn cynnwys silt, tywod a chlai llifwaddodol a ddyddodwyd dros amser gan afon Tawe. Serch hynny, ychydig iawn o'r priddoedd hyn sydd yn y golwg oherwydd y datblygiad llawr caled sef Stad y Farteg.
Rhwydweithiau a llwybrau draenio
Mae Ffigur 6 yn dangos rhwydweithiau draenio tir, dŵr wyneb a Dŵr Cymru yng nghyffiniau'r llifogydd a fu, fel a nodir yn yr allwedd.
Ceir rhwydwaith carthffosiaeth cyfunol eang Dŵr Cymru hefyd sy'n cael ei fwydo i brif garthffos sy'n dwyrannu'r dalgylch sy'n rhedeg drwy gyffordd Stad y Farteg a Heol Ynysydarren cyn parhau i lawr Cwm Tawe, a ddangosir yn Ffigur 7.
Stad y Farteg
Mae Ffigur 8 isod yn dangos llwybrau llif y dŵr wyneb yn yr ardal sy'n mynd i'r cwlfer sy’n 1.2m mewn diamedr (MH1 a ddangosir yn Ffigur 10), sy'n rhedeg i gyfeiriad gorllewinol o dan yr A4067
Ynysydarren
Mae cwrs dŵr â chwlferi'n croesi o dan Heol Ynysydarren ger cornel mwyaf gogleddol caeau rygbi Ystalyfera. Mae'r cwlfer yn rhedeg o dan yr hyn a oedd yn dir preifat (sydd wedi'i brynu gan y cyngor ers hynny), ar hyd ffin ogleddol y caeau cyn mynd i mewn i siambr ar dir rhifau 1 – 35 Maes y Darren, sy'n cael ei reoli gan Tai Tarian. O'r pwynt hwn, mae'r cwlfer yn troi 90o cyn rhyddhau dŵr i afon Twrch. Nid yw'r cwrs dŵr â chwlferi yn rhyngweithio â'r system ddraenio sy'n gwasanaethu Stad y Farteg yn ystod llifau arferol. Fodd bynnag, os yw'r cwlfer yn gorlifo o’r siambr archwilio yn Heol Ynysydarren (a ddangosir yn ffigur 11), fel y gwnaeth yn ystod y llifogydd yn 2016 a 2020, caiff y dŵr ei drwy'r llwybr llif a welir isod yn Ffigur 9.
Crynodeb o Lifoedd Dŵr ar 16 Chwefror
Yn ystod y llifogydd, llifodd y dŵr a oedd wedi gorlifo o'r ffynonellau a oedd yn cyfrannu a dŵr wyneb i'r pwynt isel yn yr ardal, wrth gyffordd Ynysydarren a Heol y Farteg.
Mae Siambr MH1 (ffigur 10) ar y pwynt isaf a dyma'r pwynt lle mae'r holl rwydweithiau draenio dŵr wyneb yn llifo iddo. Adeiledir MH1 ar gwlfer sy'n 1.2m ar ei draws sy'n llifo gyda'r afon o'r dwyrain i'r gorllewin o dan Stad y Farteg, y byddai wedi cyflenwi dŵr i'r hen waith haearn/tun ac sydd bellach yn cludo dŵr o'r stad o dan yr A4067 tuag at safle ASDA a ddatblygwyd yn ddiweddar. Credir bod y rhan hon o dan Stad y Farteg yn ddiangen ac eithrio'r ffaith ei fod yn darparu rhywfaint o le storio ar gyfer llifoedd sy'n mynd i mewn i MH1. Yn dilyn yr ymchwiliad credir bod dŵr wedyn wedi ei gludo drwy system gwlferi i lawr y cwm, cyn disgyn i lawr yr afon ar lannau afon Tawe.
Canfyddiadau manwl yr ymchwiliad
Ynysydarren
Yn flaenorol, roedd ymchwiliadau i'r rhan o'r cwlfer yn is i lawr yr afon o Heol Ynysydarren wedi tynnu sylw at y ffaith fod yr anallu i ymdopi â llif mawr wedi'i achosi gan gwlfer a oedd wedi cwympo'n rhannol ar dir preifat.
Ers yr archwiliadau hyn, penderfynodd y cyngor, sy'n gweithredu fel ALlLlA, brynu'r tir 3ydd parti er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r cwlfer er mwyn atal llifogydd i'r gymuned.
Ers hynny, mae'r cwlfer presennol wedi'i dynnu a'i ddisodli gan bibell newydd a mwy o ran maint, sy’n 900mm mewn diamedr. Mae'r cynllun hwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus ac wedi lleihau'r perygl o lifogydd i breswylwyr Stad y Farteg.
Stad y Farteg
Yn ystod oriau olaf dydd Sadwrn 15 Chwefror, llethwyd ar allu dylunio'r system draenio dŵr wyneb yn Stad y Farteg, gan achosi llifau dros y tir i gyffordd Ynysydarren a Heol y Farteg. Fel y nodwyd eisoes, y llifau gorlifol ychwanegol o siambr Ynysydarren a oedd wedi cael effaith sylweddol ar y gallu i ddraenio. Am tua 00:30 ddydd Sul 16 Chwefror dechreuodd y llifogydd ar hyd Heol y Farteg.
Dan gynllun ariannu ar raddfa fach Llywodraeth Cymru, comisiynodd CBSCNPT is-gontractwr annibynnol i osod drysau atal llifogydd ar 12 eiddo yn Heol y Farteg. Dywedodd swyddogion a oedd yn bresennol yn syth ar ôl y llifogydd fod dŵr yn dod i mewn drwy'r drysau.
Gwnaed archwiliadau hefyd i'r orsaf bwmpio dros dro ger MH1, yr ystyriwyd ei bod yn gweithio ar adeg y digwyddiad. Y dŵr ychwanegol a orlifodd o Ynysydarren, ochr yn ochr â’r swm cyson o ddŵr a syrthiodd yn ystod cyfnod byr a oedd wedi llethu ar allu’r orsaf bwmpio dros dro.
Rhwydwaith DCWW
Yn ystod oriau mân ddydd Sul 16 Chwefror, gorlifodd rhwydwaith carthffosydd DCWW gan arwain at garthffosiaeth gyfun yn llifo drwy Stad y Farteg ac yn cyfrannu at y llifogydd. (Gweler ffigurau 7 a 9).
Yn dilyn ymchwiliadau, canfuwyd mai'r llifau ychwanegol o ddŵr wyneb o gwlfer Ynysydarren a wnaeth ymuno â'r rhwydwaith carthffosiaeth a oedd wedi achosi i'r rhwydwaith carthffosydd orlifo. Yn ystod ymchwiliadau DCWW, ni nodwyd unrhyw broblemau i gyfanrwydd adeileddol y rhwydwaith carthffosydd.
Draen cludo o Siambr MH1 i Bwynt A (cyfeiriwch at Ffigur 10)
Mae'r awdurdod wedi penodi ymgynghorydd i lunio achos busnes amlinellol (ABA) a dyluniad manwl amlinellol i ailsefydlu'r cysylltiad rhwng pwynt A a B. Ers digwyddiad 2020 mae'r cyngor wedi cwblhau'r ABA a disgwylir iddo gwblhau'r dyluniad manwl ym mis Ebrill 2021. Bwriedir i'r cynllun arfaethedig ganiatáu i ddŵr wyneb lifo heb gymorth i ffwrdd o stad dai y Farteg a lleihau'r perygl llifogydd presennol i'r gymuned leol. Comisiynwyd yr adroddiad a'r dyluniad drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Llywodraeth Cymru a bwriad yr awdurdod yw datblygu'r prosiect i'r cam adeiladu yn ystod y flwyddyn ariannol 21-22.
Crynodeb o Ganfyddiadau'r Ymchwiliad
Fel o'r blaen, casgliad ymchwiliadau'r awdurdod yw bod y system ddraenio, y credai ei bod wedi cysylltu pwynt A a phwynt B (Ffigur 12) yn flaenorol, wedi'i symud. Ynghyd â'r rhwystrau a'r cwympiadau i'r cwlfer ar dir preifat ger Heol Ynysydarren, dyma oedd y rheswm sylfaenol dros y llifogydd.
Gan gredu bod y cysylltiad o bwynt A a phwynt B wedi'i dorri, mae'r awdurdod wedi comisiynu achos busnes gyda dyluniadau manwl i sefydlu'r cysylltiad. Bwriad yr awdurdod yw datblygu'r prosiect yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22.
Fel ALlLlA, cychwynnodd y cyngor achos i brynu tir ger Heol Ynysydarren yn 2020 gan ddefnyddio ei bwerau draenio tir, ac ers hynny mae wedi unioni hyd y cwlfer sydd wedi'i esgeuluso.
Roedd y mesurau lliniaru dros dro a gyflwynwyd gan y cyngor ers y llifogydd yn cynnwys adeiladu siambr newydd ger pwynt isel y stad a gosod system bwmp. Serch hynny mae'r system ond yn pwmpio dŵr wyneb dros y tir i system ddraenio priffordd yr A4067, ac o ganlyniad, mae ei heffeithiolrwydd wrth ddelio ag amodau llifogydd yn gyfyngedig. Er mwyn lleihau'r problemau adnoddau sylweddol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw gweithrediad y pympiau, mae'r awdurdod wedi cwblhau'r gwaith o osod cyflenwad pŵer parhaol ers hynny i gymryd lle'r generadur presennol sy'n cael ei bweru gan danwydd.
Nodir y cafwyd rhai adroddiadau blaenorol am fwy o lifogydd cyfyngedig gan breswylwyr Heol y Farteg ers datblygu safle ASDA; fodd bynnag, nid oedd un ohonynt wedi bodloni'r meini prawf er mwyn cynnal ymchwiliad llifogydd.
Y Camau Gweithredu a Argymhellir
Y camau gweithredu a gynhwysir yn Nhabl 2 yw'r camau gweithredu argymelledig i'w cyflawni gan yr ARhP neu'r perchennog tir/eiddo perthnasol.
Rhif | Gweithredwyd gan | Cam Gweithredu | Sut caiff ei gyflawni |
---|---|---|---|
1 | CBSCNPT a Pherchennog tir/Datblygwr ASDA | Datrys problem y cysylltiad draenio coll |
Ystyried canfyddiadau'r ymchwiliad o ran y cysylltiad draenio coll a pharhau â'r cynnydd i ailsefydlu cysylltiad. Diweddariad 17/5/21: Ymchwiliad wedi'i gwblhau |
2 | CBSCNPT | Ystyried y perygl o lifogydd i'w heiddo eu hunain. |
Ymgymryd â chynllun lliniaru llifogydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ailadeiladu cysylltiad cwlfer rhwng Heol y Farteg a chwlfer Glan yr Afon. Diweddariad 6/12/21: Dyddiad Cwblhau 26 Ionawr 2022 |
3 | CCNPT a DCWW | Sicrhau bod carthffosydd cyhoeddus ar y cyd â rhai dŵr wyneb yn gweithredu'n effeithlon | Comisiynu ymchwiliad i fesurau diogelu eiddo rhag llifogydd cyfredol. |
Atodiadau
Atodiad A
Mae Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn nodi CBSCNPT fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ar gyfer yr ardal. Mae hyn wedi gosod nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau rheoli perygl llifogydd ar y cyngor. Yn benodol, mae Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswydd ar CBSCNPT i gynnal ymchwiliadau i lifogydd i'r graddau y mae'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol.
Mae 'Awdurdod Rheoli Perygl' (ARhP) yn golygu::
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr: Adran 19 - Awdurdodau Lleol: Ymchwiliadau
- Wrth ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal, mae'n rhaid i awdurdod llifogydd lleol arweiniol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod hi'n angenrheidiol neu'n briodol, ymchwilio i—
- ba awdurdodau rheoli perygl sydd â'r swyddogaethau rheoli llifogydd perthnasol,
- p'un a yw pob un o'r awdurdodau rheoli perygl hynny wedi arfer y swyddogaethau hynny, neu'n bwriadu eu harfer, mewn ymateb i'r llifogydd.
- Lle bydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), rhaid iddo -
- gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a
- hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli perygl.
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010), A. 19, p.29, Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- awdurdod llifogydd lleol arweiniol,
- cyngor dosbarth ar gyfer ardal nad oes ganddi awdurdod unedol,
- bwrdd draenio mewnol,
- cwmni dŵr ac
- awdurdod priffyrdd.
Wrth ystyried a yw'n angenrheidiol neu'n briodol ymchwilio i lifogydd yn ei ardal, bydd CBSCNPT yn adolygu difrifoldeb y digwyddiad, ynghyd â nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnynt a pha mor aml y ceir y fath ddigwyddiad. Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y cyngor yn nodi'r meini prawf i'w defnyddio wrth ystyried Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd.
Atodiad B - Cyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl
Mae gan ARhP yng Nghastell-nedd Port Talbot gyfrifoldebau o ran rheoli perygl llifogydd. Mae Tabl 2 isod yn nodi'r ffynonellau llifogydd niferus a'r ARhP sy'n gyfrifol, a'r swyddogaethau rheoli perygl llifogydd sy'n ymwneud â ffynhonnell llifogydd benodol.
Tabl 3, Cyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl
Ffynhonnell y llifogydd | Cyfoeth Naturiol Cymru | Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol | Cwmni dŵr | Awdurdod Priffyrdd |
---|---|---|---|---|
Prif afon | * | |||
Cwrs dŵr cyffredin | * | |||
Dŵr wyneb | * | |||
Dŵr wyneb sy'n cychwyn ar y briffordd | * | |||
Carthffos yn Gorlifo | * | |||
Y môr | * | |||
Dŵr daear | * |
Amlinellir y cyfrifoldebau cyffredinol a osodir ar ARhP o ran rheoli perygl llifogydd isod.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o brif afonydd a'r môr. Mae CBSCNPT yn gweithio'n agos gyda CNC, yn enwedig wrth reoli perygl llifogydd o sawl ffynhonnell ar y cyd ac os bydd llifogydd sylweddol. Mae CNC hefyd yn darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd ledled Cymru mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd neu'r môr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel ALlLlA
Mae CBSCNPT yn gyfrifol am reoli'r perygl o lifogydd sy'n gysylltiedig â chyrsiau dŵr cyffredin, dŵr daear a dŵr wyneb. Mae CBSCNPT wedi llunio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn unol â Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 sy'n nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu cyflawni'r swyddogaeth hon. Yn ogystal â hyn, ac fel y soniwyd yn flaenorol, mae gan yr awdurdod hefyd Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a luniwyd i fodloni gofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Gosodir nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau ar yr awdurdod fel yr ALlLlA ar gyfer yr ardal gan y ddwy ddogfen ddeddfwriaethol hyn. Mae'r awdurdod hefyd yn gyfrifol am roi caniatâd am waith ar gyrsiau dŵr cyffredin a gorfodi gwaredu unrhyw adeiladwaith neu rwystr anghyfreithlon yn y cwrs dŵr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Awdurdod Priffyrdd
Mae'r awdurdod yn gwneud gwaith cynnal a chadw arferol ar yr isadeiledd cludo dŵr sydd yn y briffordd, gan gynnwys gweithredoedd glanhau cwlferi a gylïau. Ymgymerir â'r gweithredoedd hyn, ynghyd ag archwilio cyflwr asedau o'r fath yn weledol, i leihau'r perygl o lifogydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a thir cyfagos.
Dŵr Cymru
Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am gyflenwi dŵr yfed ac am gludo'r dŵr gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ymaith, ynghyd â'i drin a'i waredu'n gywir. Cyfrifoldeb Dŵr Cymru yw unrhyw lifogydd sy'n digwydd oherwydd bod carthffosydd cyhoeddus wedi'u gorlwytho neu brif bibell ddŵr wedi torri.
Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru
Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) yn gyfrifol am gynnal a rheoli'r rhwydwaith cefnffyrdd ledled de Cymru, gan gynnwys unrhyw asedau draenio a pherygl llifogydd cysylltiedig.
Perchnogion Tir/Eiddo
O dan gyfraith gwlad, mae gan berchnogion tir neu eiddo hawliau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud ag unrhyw gwrs dŵr sy'n rhedeg drwy neu gerllaw ffiniau eu tir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i berchennog tir:
- Drosglwyddo'r llif heb unrhyw rwystr, llygredd neu ddargyfeiriad sy'n effeithio ar hawliau eraill.
- Derbyn llifogydd naturiol trwy ei dir, hyd yn oed os cânt eu hachosi gan anallu i ymdopi â'r llif o ddŵr i lawr yr afon, oherwydd nad oes dyletswydd cyfraith gwlad i wella cwrs dŵr.
- Cynnal gwely a glannau'r cwrs dŵr (gan gynnwys coed a llwyni sy'n tyfu ar y glannau) a chlirio unrhyw weddillion, naturiol neu fel arall, gan gynnwys sbwriel a sgerbydau anifeiliaid, hyd yn oes os na ddaeth o'i dir.
- Sicrhau nad yw pysgod yn cael eu rhwystro rhag nofio'n rhydd.
- Cadw'r gwely a'r glannau'n glir o unrhyw sylweddau a allai beri rhwystr naill ai ar ei dir, neu drwy gael ei olchi ymaith gan lif uchel i rwystro adeiladwaith i lawr yr afon.
- Cymryd cyfrifoldeb am ddiogelu ei eiddo rhag diferiadau drwy lannau naturiol neu a adeiladwyd.
- Cadw unrhyw adeiladwaith y mae'n berchen arno, megis cwlferi, sgriniau sbwriel, coredau etc. yn glir.
O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae angen i berchennog tir gael caniatâd gan y cyngor os yw am adeiladu cwlfer neu adeiledd rheoli i liniaru llifogydd ar unrhyw gwrs dŵr cyffredin.