Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Atal Llifogydd Glyn-nedd

Risg y llifogydd presennol

  • Llifogydd i eiddo ar Stryd y Graig a Stryd Robert o Nant Gelliceibryn. Nid oes gan y system ddraenio bresennol ddigon o gapasiti i gyfleu dŵr yn ystod rhai stormydd.
  • Llifogydd i ganol tref Glyn-nedd. Daw hyn o ryd ar Ffordd Glynmelyn a leolir ar Nant y Gwyddyl i'r dwyrain o Glyn-nedd.

Gwaith arfaethedig

Bydd y gwaith arfaethedig mewn dau rhan.

Mae'r gwaith yn debygol o ddechrau ym mis Awst 2022 tan fis Tachwedd 2023.

Rhan 1 a Rhan 2 – yn debygol o fod yn 14 mis o hyd,

Rhan 1 - Gwaith yn Stryd y Graig a Clôs Lancaster

  • Adeiladu strwythur cilfach newydd / sgrin sbwriel yn y coetir
  • Cwlfer gorlif o'r coetir i Afon Nedd i ddargyfeirio llifogydd.

Rhan 2 - Gwaith yn Nant y Gwyddyl

  • Adeiladu cwlfer newydd ar y rhyd ar Ffordd Glynmelyn. 

Y presennol

Mae'r holl bibellau wedi'u gosod o Clôs Lancaster i Afon Nedd.

Mae'r gwaith derbyn bron wedi'i gwblhau a'r gwaith gorffen i'w gwblhau o fewn y mis nesaf; Gorffennaf 2023. Mae'r gwelliannau draenio a'r gwaith tarmac yng Ngelliceibryn bron wedi'u cwblhau.

Y gwaith sydd heb ei wneud yw gorchuddion siambr i'w gosod ar hyd Clôs Lancaster, ffensys a tharmac o amgylch y strwythur derbyn.

Mae rhan 2 y gwaith eisoes wedi dechrau gyda chwmnïau cyfleustodau a Knights Brown yn dargyfeirio gwasanaethau.

Buddion

  • Lleihau'r risg o lifogydd i eiddo preswyl a masnachol o Nant Gelliceibryn a rhyd Nant y Gwyddyl.
  • Amddiffyniad i ganol Glyn-nedd, gan gynnwys Stryd y Graig, Stryd Robert a Chartref Gofal Trem y Glyn.

Amhariad tebygol

  • Cau lonydd ar Clôs Lancaster ar gyfer gosod gorchudd siambr.
  • Bydd mynediad i Gelliceibryn yn cael ei reoli yn ystod y gwaith gorffen.
  • Cynnydd yn y traffig adeiladu i gompownd y safle yn y cae deheuol oddi ar Goedlan y Parc.
  • Cau Ffordd Heol Glynmelyn wrth y rhyd. Bydd ffordd fynediad dros dro ar gael yn ystod y cyfnod adeiladu i gynnal mynediad i Heol Glynmelyn o Heol y Glyn (A4109).

Ariannu

Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae gwerth buddsoddi presennol y cynllun hwn tua £3 miliwn.

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r cynllun, cysylltwch ag adran ddraenio Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot:

Rheolwr Prosiect Draenio
Richard Coleman pref