Cynllun rheoli llifogydd
Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi ei baratoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mewn ymgynghoriad â'i bartneriaid perygl o lifogydd yn ei rôl fel Arweinydd Awdurdod Llifogydd Lleol i ddarparu ymateb cydgysylltiedig i berygl llifogydd o fewn ein cymunedau.
Y cynllunhwn yw'r olaf mewn cyfres o gamau gweithredu a nodir o dan y Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 sydd yn gofyn i baratoi:
- Asesiad RisgLlifogydd Rhagarweiniol
- PeryglLlifogydda MapiauPerygl Llifogydd
- Cynllun RheoliPerygl Llifogydd
Mae'n nodi sut y bydd CBSCNPT, ar y cyd â rhanddeiliaid fel y bo'n briodol, yn rheoli perygl llifogydd dros y 6 blynedd nesaf i sicrhau bod manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu huchafu yn erbyn cyd-destun yr adnoddau sydd ar gael.
Ar ben hynny, mae'r cynllun yn bwrw ymlaen â'r amcanion a'r camau gweithredu a nodir yn ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (a gyhoeddwyd ym Mehefin 2013) a'r amcanion a nodwyd yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Rheoli Perygl Cenedlaethol Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Mae'r amcanion hyn yn canolbwyntio ar leihau canlyniadau andwyol llifogydd ar iechyd dynol, yr amgylchedd, treftadaeth ddiwylliannol a gweithgarwch economaidd. Mae'r cynllun yn tynnu sylw at yr ardaloedd mwyaf mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin yn y Fwrdeistref Sirol, yn assessu y risgiau hyn, ac yn gosod allan y mesurau lliniaru arfaethedig.