Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwestiynau cyffredin gwasanaeth wardeiniaid cŵn

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gasglu cŵn strae sy’n crwydro ac sydd wedi ei hadrodd ar goll yn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Port Talbot.    Mae gan yr heddlu gyfrifoldeb i ddelio gyda chasglu cŵn peryglus.

Mae yna gi yn fy stryd sy'n ymddangos yn peryglus a byddwch yn ei gasglu?

Os yw'n ymddengys bod y ci yn beryglus, yna mae angen rhoi gwybod i'r heddlu amdano oherwydd y nhw sydd yn delio â'r math yma o sefyllfa.

Mae yna gi strae yn fy stryd, beth ddylwn i ei wneud?

Mae angen i chi gysylltu â'r warden cŵn a fydd wedyn yn dod i casglu'r ci. Nid ydym yn awgrymu eich bod yn ceisio dâl y ci eich hun. Os ydych chi wedi cymryd y ci i fewn byddwn yn dal ei gasglu, cyn belled ag y byddwch yn cysylltu â ni ar unwaith. Os ydych wedi cael y ci am fwy na diwrnod neu ddau efallai na fydd y warden cŵn yn ei gasglu.

Mae'r cymdogion yn dal i adael i'w ci fynd allan i grwydro, gallwch wneud unrhyw beth?

Bydd angen i chi gysylltu â'r warden cŵn a darparu cyfeiriad. Yna byddwn yn galw i'r eiddo ac yn siarad â'r perchennog.

Nid wyf eisiau fy nghi mwyach a wnewch chi ei gasglu?

Na. Cysylltwch â'ch lloches anifeiliaid leol

Rydw i wedi colli fy nghi beth allwch chi ei wneud?

Bydd angen i chi roi disgrifiad o'r ci ynghyd â'ch manylion cyswllt i’r warden cŵn, ynghyd â manylion ble a phryd yr adroddwyd gyntaf ei fod ar goll. Yna bydd ein gwardeiniaid cŵn yn gwirio'r manylion hyn ac yn cysylltu â chi os oes gennym gi o'r un disgrifiad.

Rydw i wedi colli fy nghi sydd â microsglodyn, a allwch chi fy helpu?

Os byddwn yn dod o hyd i'r ci, bydd y warden yn ei sganio ac yn ceisio mynd ag ef yn uniongyrchol yn ôl i'r perchennog. Os na ellir dod o hyd i'r perchennog neu os yw'r manylion yn wahanol, yna bydd y ci yn cael ei gymryd i'r ffald.

Sut mae cael microsglodyn yn fy nghi a beth yw'r budd?

Gallwch gael eich ci wedi'i ficro-naddu gan eich milfeddygon. Gwneir ceisiadau micro-naddu o bryd i'w gilydd ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth y Cŵn ac ar sail "adhoc" gan y Wardeiniaid Cŵn - bydd y Warden Cŵn yn cysylltu â'r perchennog cyn pen 48 awr i drefnu.

Faint mae micro-naddu yn ei gostio?

Mae'r costau'n amrywio, gofynnwch i'ch milfeddyg lleol neu bydd y warden cŵn yn rhoi gwybod am unrhyw daliadau

Rwyf wedi cael gwybod eich bod wedi darganfod fy nghi, sut ydw i'n ei gael yn ôl?

Mae angen i  chi gysylltu â'r warden cŵn ar dogwardens@npt.gov.uk neu 01639 686868.

Ble mae’r ffald y cŵn?

Glasfryn Kennels, Stryd Dŵr, Margam, SA13 2PA

Beth yw amseroedd agor ffald y cŵn?

9:00am - 16:00pm.

Faint fydd yn rhaid i mi dalu i gael fy nghi yn ôl?

Mae'r tâl yn dibynnu ar ba mor hir y mae’r ci wedi bod yn y ffald, felly y peth gorau i'w wneud yw cysylltu â'r warden cŵn i wirio’r tâl.