Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Arwyddion Dros Dro a Baneri

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn caniatáu gosod arwyddion dros dro ar y briffordd er mwyn hysbysebu digwyddiadau a drefnir gan y gymuned, gwasanaethau cyhoeddus neu elusennau.

Cyn gosod unrhyw arwyddion/baneri, rhaid i'r Is-adran peirianneg dderbyn Ffurflen Gais a Ffurflen Atebolrwydd wedi'u cwblhau. Pan fydd y Ffurflen Gais wedi'i chymeradwyo, bydd trefniadau'n cael eu cadarnhau.

Mae'n ofynnol bod unrhyw arwydd/baner yn cael ei gosod ar yr amser a gytunwyd arno a dim mwy na 2 wythnos cyn digwyddiad a'i bod yn cael ei symud o fewn 24 awr wedi cynnal y digwyddiad.

Unwaith y bydd archeb yn cael ei gadarnhau gallwch godi'r baneri o fore Llun a'u symud erbyn nos Sul.

Dylai pob arwydd/baner fod yn ddwyieithog yn unol â Chynllun yr Iaith Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Gellir gosod arwyddion/baneri dros dro ar y safleoedd canlynol:-

Castell-nedd

  • Rheilen Warchod Morrisons (gyferbyn â'r orsaf betrol)
  • Rheilen Warchod Gerddi Victoria (tu allan i'r feddygfa)
  • Rheilen Warchod Cylchfan Canolfan Ddinesig Castell-nedd
  • Rheilen Warchod Cylchfan Cornel Stockham

Port Talbot

  • Rheilen Warchod Theatr y Dywysoges Frenhinol/Canolfan Ddinesig Port Talbot
  • Gard rheilffordd (gyferbyn brif fynedfa)

Glyn-nedd

  • Gard rheilffordd (gyferbyn 110 High Street

Pontardawe

  • A474 Rheilen Warchod (ar safle bws)

Cyn gosod unrhyw arwyddion/baneri, rhaid i'r Is-adran Draffig dderbyn Ffurflen Gais a Ffurflen Atebolrwydd wedi'u cwblhau.

Ffurflen Gais a Atebolrwydd

  • Ffurflen Gais Arwyddion Dros Dro a Baneri (DOCX 60 KB)

    i.Id: 4267
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Ffurflen Gais Arwyddion Dros Dro a Baneri
    mSize: 60 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/djeon3b0/ffurflen_gais.docx

  • Arwyddion Dros Dro a Baneri - Ffurflen Atebolrwydd (DOC 70 KB)

    i.Id: 4268
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Arwyddion Dros Dro a Baneri - Ffurflen Atebolrwydd
    mSize: 70 KB
    mType: doc
    i.Url: /media/0wvfu1an/ffurflen_atebolrwydd.doc

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ceisiadau am arwyddion dros dro ar gyfer digwyddiadau wedi'u trefnu, cysylltwch â'r Is-adran Perianneg ar 01639 686906.