Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Enwi a rhifo strydoedd

Enwi a Rhifo Strydoedd

Croeso i Wasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd y Cyngor. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd ac enwi/rhifo pob eiddo preswyl ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Adeiladau Newydd

Wrth adeiladu adeilad newydd a chyn bod unrhyw un yn byw ynddo, bydd rhaid i eiddo dderbyn cyfeiriad swyddogol gan yr awdurdod lleol. Yna, caiff cyfeiriadau eu cofrestru gyda'r Post Brenhinol, a fydd yn cyflwyno cod post newydd. Yna, caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo i adrannau eraill yn y cyngor yn ogystal â chwmnïau cyfleustodau, gwasanaethau argyfwng a'r Gofrestrfa Tir. Bydd y Post Brenhinol hefyd yn anfon yr wybodaeth hon ymlaen at gwmnïau preifat fel siopau'r stryd fawr, banciau a chwmnïau yswiriant ayb.

Os na fydd eich eiddo'n cael ei gofrestru, ni fydd y Post Brenhinol yn ei gydnabod. Bydd hyn yn arwain at anawsterau wrth ddod o hyd i'ch eiddo, ac ar ben hynny, gallai fod yn anodd cofrestru eich cyfeiriad gyda banciau, siopau a sefydliadau credyd ayb.

Taliadau am y gwasanaethau hyn

Math o Gais Tâl

Enwi/rhifo un plot

£58.70

Enwi/Rhifo hyd at 5 plot

£58.70 yn ogystal â £29.35 fesul plot

Enwi/Rhifo 6 phlot neu fwy

£86.91 yn ogystal ag £29.35 fesul plot

Addasu eiddo yn fflat / Addasu eiddo o fod yn fflat

£58.70 yn ogystal â £29.35 fesul fflat

Ail-rifo datblygiad (ar ôl hysbysu)

£112.88 yn ogystal â £29.35 fesul plot

Llythyr gan y cyfreithwyr i gadarnhau cyfeiriad

£45.15

Cais i newid neu ychwanegu enw/rhif at y cyfeiriad presennol

£45.15

Cais i dynnu cyfeiriad o gofnodion

£45.15

Mae costau lluosog yn seiliedig ar faint y datblygiad gorffenedig ac yn amherthnasol i ddyddiad cwblhau eiddo unigol

Nid yw'r taliadau uchod yn destun TAW

Sieciau i'w gwneud yn daladwy i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot/ERS neu (CBSCNPT/ERS)' a rhaid atodi ffurflen gais. Gallwch hefyd dalu i Enwi a Rhifo Strydoedd ar-lein

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â:

Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd
(01639) 686741 (01639) 686741 voice +441639686741

Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Iau 8am - 5pm (ac eithrio Gwyliau Banc)