Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mynediad i Gefn Gwlad

Mae Cyngor CNPT yn rheoli'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd eraill yn y fwrdeistref sirol sy'n darparu llawer o gyfleoedd i bobl gael mynediad i gefn gwlad a'i fwynhau.

I gael diffiniadau o'r mathau amrywiol o lwybrau mynediad a thir, ewch i'n tudalen Hawliau Mynediad.

Hawliau Tramwy

Mae’r rhwydwaith hawliau tramwy’n cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffyl a chilffyrdd sy’n cael eu cynnal gan yr Awdurdod Priffyrdd. Dangosir y rhain ar y cynllun mewn llinellau lliw. Er gwybodaeth, nid oes cilffyrdd cyfyngedig yn y Fwrdeistref Sirol.  Arweiniad yn unig yw’r map hwn, e-bostiwch y cyfeiriad isod i gael mwy o wybodaeth fanwl.  Nid yw’r priffyrdd a nodir ar y cynllun yn cynnwys priffyrdd cyhoeddus eraill a gynhelir megis priffyrdd a fabwysiadwyd. 

Gall gwybodaeth sy'n ymwneud â phriffyrdd hyn ar gael drwy ymweld â'n tudalen priffyrdd.Priffyrdd Mabwysiedig

Hysbysiadau Cyfreithiol/Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus

I weld yr hysbysiadau cyfreithiol a'r gorchmynion llwybrau cyhoeddus cyfredol, ewch i'r dudalen hon

Cynnal a Chadw Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot

Gellir gweld tudalen arweiniad, sy'n egluro'r rôl sydd gennym o ran cynnal Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot o ddydd i ddydd, yma.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy - ROWIP

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor CNPT i gynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, sef prif ddull cynghorau o nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i’w rhwydwaith hawliau tramwy lleol a mynediad i gefn gwlad.

Cafodd ROWIP Castell-nedd Port Talbot ei gynhyrchu a’i gyhoeddi’n wreiddiol ar gyfer y cyfnod 2008-2018. Yn dilyn cyfnod helaeth o asesu ac ymgynghori, lluniwyd ROWIP drafft, ac fe’i cymeradwywyd wedyn gan y Cyngor ar 20 Mawrth, 2020. 

Wrth gyflawni’r ROWIP, mae’r Cyngor yn ceisio sicrhau bod darpariaeth Castell-nedd Port Talbot o ran mynediad i gefn gwlad yn cynnig y cyfle gorau posibl i drigolion ac ymwelwyr  ynhau’r manteision sydd ar gael. Mae’r Cynllun yn amlinellu nifer o amcanion sydd i’w cyflawni, gan gynnwys cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy, hyrwyddo a chefnogi mynediad i gefn gwlad yn gyffredinol, cadw cofnodion a gwybodaeth am y rhwydwaith, a sicrhau bod y ddarpariaeth o ran mynediad yn diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr.

Mae’r ymatebion i’r sylwadau a ddaeth i law, yn amlygu newidiadau arfaethedig i’r ddogfen lle bo hynny’n berthnasol, i’w gweld yn Atodiad 1 yn y ddolen yma

“Mae’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor a’i ymrwymiad i ddiogelu, cynnal a gwella’r adnodd hwn i’r dyfodol. Er mai craidd y Cynllun diwygiedig o hyd yw ansawdd a hygyrchedd yr adnodd ffisegol, rydym hefyd yn credu’n angerddol y dylai ein cefn gwlad wasanaethu anghenion pawb o ran hamdden, iechyd a llesiant, felly byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ein hymdrechion ar fwyafu nifer ac ystod y bobl sy’n gallu mwynhau manteision ein hamgylchedd naturiol.”

Y Cynghorydd Annette Wingrave (Aelod Cabinet ar gyfer Adfywio a Datblygu Cynaliadwy)

Map Diffiniol

Y Map Diffiniol yw cofnod cyfreithiol Cyngor CNPT o'r holl hawliau tramwy cyhoeddus cofrestredig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r map yn dangos llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffyl a rhai hawliau tramwy i gerbydau.

Gellir gweld copi gweithio o'r Map a Datganiad Diffiniol yn swyddfeydd y cyngor yn y Ceiau, Llansawel - rhaid gwneud apwyntiad yn gyntaf.

Fforwm Mynediad Lleol

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn gwella mynediad i gefn gwlad. Mae'n rhoi awgrymiadau i'r cyngor ar sut y gellir cyflawni hyn. Mae pob cyfarfod yn agored i'r cyhoedd. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cefn Gwlad.