Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheoli Datblygiad Priffyrdd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd a thraffyrdd yn ardal y fwrdeistref.  Gwaith yr Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd yw:

  • Rhoi cyngor i'r Is-adran Gynllunio fel ymgynghorai statudol ar faterion priffyrdd.
  • Ymdrin ag agweddau ar y briffordd o ymholiadau cyn-gynllunio ar gyfer safleoedd datblygu posib.
  • Sicrhau gwelliannau i'r briffordd sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd.
  • Rhoi cyngor ar addasrwydd safleoedd arfaethedig i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.
  • Sicrhau bod ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safonau gofynnol yr awdurdod fel eu bod yn addas i'w mabwysiadu.
  • Archwilio'r lluniadau ar gyfer priffordd newydd neu addasiadau i'r briffordd sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd.
  • Ymateb i Geisiadau Trwydded Gweithredwyr Cerbydau Nwyddau.
  • Ymateb i geisiadau masnachu ar y stryd.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol hefyd ac fel rhan o hyn mae'r Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd yn ymdrin â a chaniatáu cyrsiau dŵr.

Justin Griffiths yw Rheolwr yr adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd Justin Griffiths (01639 686850).

Mae Rheoli Datblygiad Priffyrdd yn sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn cael effaith niweidiol ar rwydwaith ffyrdd Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys diogelwch ffyrdd, llif y traffig, creu traffig a'r amgylchedd. Mae hefyd yn ymdrin chaniatáu cyrsiau dŵr.

Mae'r Is-adran yn cynnwys:

  • Ceisiadau Cynllunio – Priffyrdd
  • Cytundebau Ffyrdd Statudol 
  • Caniatáu Cyrsiau Dŵr Cyffredin

Draenio Trefol Cynaliadwy

Ceisiadau Cynllunio - Priffyrdd

Mae gan yr Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd rôl bwysig yn y system rheoli datblygiad. Mae gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yr awdurdod i wrthod/derbyn cynigion/ceisiadau datblygu'n uniongyrchol. Rhaid i'r ACLl ymgynghori â'r Awdurdod Priffyrdd (AP), os yw'r datblygiad yn wynebu ffordd ddosbarthedig. Gwaith yr Awdurdod Priffyrdd yw cyflwyno sylwadau ar y briffordd ynghylch a fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar draffig a diogelwch ffyrdd.

Cyflwynir tri math o geisiadau cynllunio i'r ACLl, sy'n cael eu hasesu gan Swyddogion Rheoli Datblygiadau ac maent yn penderfynu arnynt, gydag argymhelliad gan yr Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd:

1. Ceisiadau Cynllunio Amlinellol

Mewnbwn Priffyrdd a Mewnbwn Draenio Tir

Bydd hyn yn edrych ar yr egwyddor o ddatblygu ond nid yw'n rhoi caniatâd i waith ddechrau ar safle. Nid oes rhaid rhoi manylion penodol cynllun arfaethedig y safle ar yr adeg hon ond gallai cynllun dangosol gynorthwyo wrth ddiffinio cynllun posib. Bydd yr hysbysiad caniatâd, os y'i rhoddir, yn nodi pa faterion wrth gefn fydd yn cael eu cymeradwyo'n ddiweddarach. Ni all unrhyw waith ddechrau ar y safle nes bod yr holl faterion wrth gefn wedi'u cymeradwyo.

2. Ceisiadau Cynllunio (Llawn) Manwl

Mewnbwn Priffyrdd

Gall ymgeisydd gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio llawn lle gwyddys fanylion llawn datblygiad.  Rhaid cyflwyno cynlluniau manwl sy'n amlinellu, er enghraifft mynedfa, y cynllun mewnol, tirlunio, gweddluniau a threfniadau parcio ceir. Cyn y gall gwaith ddechrau ar y safle, rhaid cael caniatâd manwl.

Mewnbwn Draenio Tir

Bydd hyn yn gofyn am fanylion unrhyw gwrs dŵr presennol neu fodd o ddraenio safle nad yw'n rhan o garthffos gyhoeddus, neu gysylltiad â chwrs dŵr presennol.

3. Newid Defnydd

Efallai bydd angen mewnbwn priffyrdd gyda'r math hwn o gais cynllunio os oes newidiadau i batrwm y traffig sy'n wahanol i'r defnydd gwreiddiol.

Argymhelliad Priffyrdd

Wrth ystyried cais cynllunio, mae tri argymhelliad ar gael i'r Awdurdod Priffyrdd:

Dim gwrthwynebiadau priffyrdd i'r cynnig - pan nad oes effaith andwyol ar y briffordd;

Cais am amodau cynllunio - pan fydd y cais yn dderbyniol yn nhermau priffyrdd yn amodol ar ambell amod. Gallai hyn gynnwys cyfraniadau gan ddatblygwr I ddarparu mynediad diogel neu fesurau cludiant cynaliadwy.

Gwrthod y cais cynllunio ar sail priffyrdd – gellir herio hyn mewn apel.  Os bydd yr ACLI yn cytuno a'r gwrthdiad ac mae'n gwrthod y cais.

Sylwer: Dim ond argymhellion gall yr Awdurdod Priffyrdd eu gwneud.  Yr Awdurdod Cynllunio sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae mwy o wybodaeth am y broses gynllunio ar-lein ar wefan yr awdurdod.

Cytundeb Statudol

Gall ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd fod yn destun amodau a/neu gytundebau cyfreithiol.

Cytunedebau Adran 106

O dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn i'r ymgeisydd gyfrannu at y cyfleusterau. Gall y rhain gynnwys tai fforddiadwy, mannau agored a mesurau cludiant cynaliadwy er enghraifft. Anogir trafodaethau cynnal â swyddogion cynllunio a phriffyrdd i egluro'r hyn y mae ei angen.

Cytundebau Adran 38

Pan fydd cais cynllunio'n cynnwys ffordd ystâd newydd er enghraifft, rhaid i ddatblygwyr eu dylunio i'r safonau a gymeradwyir gan y cyngor. Yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio a chyn dechrau adeiladu ar safle, rhaid i ddatblygwyr gael cytundeb a bond i dalu am gost lawn adeiladu'r ffordd o dan Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980. Heb gytundeb o'r fath, bydd rhaid i ddatblygwyr roi blaendal i'r cyngor o dan gôd Blaendaliad.

Cynghorir datblygwyr i drafod y materion hyn ag Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd y cyngor yn gynnar er mwyn osgoi oedi ar y cam gweithredu.

Cytundebau Adran 278

Pan fydd datblygiad yn galw am waith i'w wneud o fewn ffiniau priffordd bresennol ac mae'r cyngor yn fodlon y bydd y gwaith o fudd i'r cyhoedd, bydd angen cwblhau cytundeb rhwng y datblygwr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o dan Adran 278 Deddf Priffyrdd 1980. Gallai'r gwaith hwn gynnwys eitemau megis lleddfu traffig, cylchfan newydd, arwyddion traffig neu welliannau eraill i gyffyrdd er enghraifft, lle byddai angen cytundeb o'r fath.

O dan ddarpariaethau Adran 278, gall y datblygwr:

  • Gael ei benodi fel asiant yr awdurdod i gyflawni'r gwaith a fydd yn gost iddo ef, felly byddai'n rhaid i'r cytundeb gael ei gefnogi gan fond;
  • Cyfrannu at gynnal a chadw'r gwaith gorffenedig yn y dyfodol gyda swm cyfnewid.

Ni chaniateir o dan unrhyw amgylchiadau gyflawni gwaith ar y priffyrdd cyhoeddus nes bod Cytundeb Adran 278 a'r bond wedi'u sicrhau.

Cyn llofnodi Cytundeb Adran 278, bydd angen cymeradwyo lluniadau peirianneg llawn. Codir tâl am y gwasanaeth hwn cyn y rhoddir llythyr technegol ffurfiol.

Rhaid i'r datblygwr ddefnyddio contractwr priodol i ymgymryd â'r gwaith ar y briffordd gyhoeddus sydd ar restr ddethol o gontractwyr y cyngor sydd wedi'u cymeradwyo i ymgymryd â'r gwerth hwnnw o waith.

Cytundebau Adran 38 a 278

Pan fydd cyffordd syml i'w chreu neu waith i alluogi'r datblygiad yn cynnwys priffordd gyhoeddus preifat a phresennol, defnyddir Cytundeb Adran 38/178. Gallai enghraifft o hyn gynnwys lôn troi i'r dde, cylchfan, signalau lle mae'r tir ar gyfer y gwaith hwn ar dir y datblygwr a'r briffordd gyhoeddus. Byddai'r gwaith dan sylw'n destun yr un amodau â'r uchod, a dylid cynnal trafodaethau gyda staff yr Is-adran Rheoli Datblygiad cyn gynted â phosib.