Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gerddi Victoria

Ymlaciwch yn y gerddi tawel sy'n llawn hanes

Pethau i'w gweld

Mae’r parc hwn o oes Fictoria yn cynnig encil golygfaol a heddychlon i bawb ei fwynhau. Gyda dros ganrif o hanes, fe welwch y:

  • Safle'r seindorf Fictoraidd gwreiddiol
  • Cerrig yr Orsedd
  • cerflun efydd Howel Gwyn
  • adeilad cymunedol

Parcio

Mae maes parcio ar gael yng nghanol tref Castell-nedd. Mae’r wybodaeth a’r taliadau parcio ceir canlynol yn berthnasol:

Maes parcio Lleoedd Anabl Tâl (Llun-Sadwrn) Tâl (Trwy dydd Sul)
Stryd Fawr 31 6 Llun-Sadwrn £1.00
Heol Milland 413 37 Llun-Sadwrn £1.00
Aml-lawr Castell-nedd 557 34 Llun-Sadwrn £1.00
Stryd Rosser 31 2 Llun-Sadwrn £1.00
Derbynnir prif gardiau credyd / debyd. Gallwch hefyd dalu am barcio trwy borth ar-lein MiPermit.

Beth sydd ymlaen

Ewch i'n marchnad dan do draddodiadol i gael y cynnyrch lleol o'r ansawdd gorau

Adeilad cymunedol

Mae’r adeilad cymunedol yn ddelfrydol ar gyfer:

  • cyfarfodydd
  • cynadleddau
  • arddangosfeydd
  • ffeiriau crefft
  • defnydd ysgol
  • partïon plant
  • cynulliadau teulu

Cyfleusterau'r adeilad cymunedol

  • seddi ar gyfer hyd at 20 o bobl
  • taflunydd a sgrin wedi'u gosod
  • toiled anabl
  • mynediad WiFi am ddim
  • drysau deublyg yn arwain allan i ardal patio breifat
  • dolen sain

Llogi ystafell yn yr adeilad cymunedol

Amser Tâl
Hanner diwrnod £39
Diwrnod llawn £76
Hyd at 2 awr £22.50
Nid oes TAW ar logi ystafell.

Cyfleusterau hygyrch

Mae Gerddi Victoria yn hygyrch i bob ymwelydd, gyda:

  • parcio i'r anabl
  • mynediad
  • toiledau
  • eisteddleoedd

Trafnidiaeth

Ar gyrion y gerddi fe ddewch o hyd i orsaf fysiau Castell-nedd, ac mae gorsaf drenau Castell-nedd yn daith gerdded 5 munud.