Beth sy'n digwydd yn y parc
Mae’r parc ar hyn o bryd yn mynd drwy brosiect gwerth £12 miliwn i wella:
- cyfleusterau ymwelwyr
- nodweddion hanesyddol
- tirlunio a pharcio
Cyfleusterau dros dro
Bydd y gwaith yn cymryd tua blwyddyn i'w gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ymyriadau a allai effeithio ar eich ymweliad.
Er mwyn parhau i groesawu ymwelwyr, byddwn yn cyflwyno’r canlynol dros dro:
- cyfleusterau arlwyo a thoiledau
- llwybrau ar gyfer rhedeg yn y parc ar ddyddiau Sadwrn
- llwybrau i fwynhau llwybr cylchol o amgylch llyn prydferth y parc
Beth sy'n newydd
Bydd y gwaith yn y parc yn cynnwys:
- dymchwel y ganolfan ymwelwyr oedrannus bresennol
- canolfan ymwelwyr ddeulawr gwbl hygyrch gyda chaffi modern
- golygfeydd balconi godidog ar draws y llyn sy'n wynebu'r de
- cyfleusterau digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadledda
- man chwarae meddal pwrpasol i blant
- maes chwarae antur coetir newydd
- llety gwyliau yn cysgu 6 o bobl ym mwthyn y pwll
- gwaith atgyfnerthu ac atgyweirio ar adfeilion Tŷ Gnoll
- gwaith adfer ar rhaeadrau ysblennydd a hanesyddol y parc
- arwyddion gwybodaeth a dehongli ar draws y safle
- estyniadau i lwybrau hamdden a cherdded trwy bont newydd
- cysylltiad o'r parc gyda Fferm Brynau, hafan bywyd gwyllt o 57 hectar o dir Coed Cadw
Ariannu
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy brosiect Coridor Treftadaeth Cwm Nedd.