Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Parc Gwledig Margam

Yn cynnig harddwch, hanes, bywyd gwyllt ac amrywiaeth eang o atyniadau teuluol

Pethau i wneud

Mae Parc Gwledig Margam yn llawn hanes, bywyd gwyllt a harddwch naturiol.  Mae rhywbeth at ddant pawb yn y parc, gan gynnwys:

  • llwybrau cerdded a beicio
  • ardaloedd chwarae plant 
  • castell a gerddi hanesyddol
  • llwybr fferm anifeiliaid
  • caffi a siop anrhegion

Oriau agor

Lleoliad Amser Dydd
Parc 10yb - 6yh Bob dydd
Caffi Charlottes Pantry 10yb - 5yh Bob dydd
Pentref y Tylwyth Teg 10yb - 5yh Bob dydd
Siop anrhegion (tymor ysgol) 10.30yb - 4.30yh Ar gau dydd Iau a dydd Gwener
Siop anrhegion (gwyliau ysgol) 10.30yb- 4.30yh Bob dydd
Pysgota 9.15yb - 5yh Bob dydd
Mae mynediad olaf i'r cyhoedd awr cyn yr amser cau a hanner awr cyn cau ar gyfer Aelodau'r Parc. Mae gan Aelodau'r Parc fynediad cynnar o 9yb.

Parcio

Mae mynediad i'r parc yn rhad ac am ddim, mae costau parcio yn berthnasol.

Gwiriwch cyn ymweld os yw'r parc yn cynnal digwyddiad arbennig lle gall fod tâl mynediad fesul person.

Cerbyd Pris
Modur £7.70
Modur (o fewn 2 awr o gau) £5.40
Bws mini £18
Coets £36
Beic modur £3.90

Beth sydd ymlaen

Dewch i weld pa ddigwyddiadau sydd ymlaen ym Mharc Gwledig Margam yn 2024.

Toiledau 

Mae ystafell newid dynodedig i fabanod yn ogystal â thoiled teulu yng Nghwrt Ymwelwyr y castell gyda thablau newid babanod ychwanegol yn y toiledau benywaidd.

Mae ein caffi tecawê ar y safle yng Nghwrt Ymwelwyr y Castell, Charlottes Pantry, yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Cyfleusterau hygyrch

Mae Parc Gwledig Margam yn gwneud pob ymdrech bod eu cyfleusterau yn hygyrch i gynifer o'u gwesteion â phosibl. Ewch i wefan Parc Margam am fwy o wybodaeth am:

  • parcio i'r anabl
  • llogi sgwter symudedd
  • mynediad
  • toiledau
  • digwyddiadau
  • cŵn tywys
  • diwrnod gŵyl y banc a digwyddiadau arbennig
  • eisteddleoedd

Cysylltwch

Cyfarwyddiadau i SA13 2TJ
Parc Gwledig Margam
Margam Castell-nedd Port Talbot SA13 2TJ pref
(01639) 881635 (01639) 881635 voice +441639881635