Cerdded
Gellir mwynhau teithiau Cerdded y Rhaeadr, Parciau Gwledig, Llwybr Arfordir Cymru, promenadau glan y môr a chefn gwlad odidog i gyd wrth gerdded yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r cyffiniau.
Er mwyn ei gwneud hi'n haws dod o hyd i'r llwybr gorau ar gyfer anghenion pob unigolyn, mae map rhyngweithiol wedi'i ddatblygu i ddod â llwybrau Castell-nedd Port Talbot i mewn i un lleoliad hawdd ei chwilio. Cliciwch ar y map isod i archwilio'r teithiau cerdded.
Mae gennym hefyd fap beicio rhyngweithiol sy'n dangos ein Llwybrau Beicio yn fwy manwl. Mae'r map hefyd yn cynnwys fideos byr o rhannau o'r llwybrau i rhoi syniad i chi o sul olwg sydd arnyn nhw.
Ein tri prif barc i gerdded yw
Mae hefyd gennym 2 llwybrau cerdded pellter hir sy'n pasio drwy CNPT
Teithiau Cerdded Arfordirol
Llwybr Arfordir Cymru
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhan bwysig iawn o dreftadaeth Cymru. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydym yn ffodus bod yv Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy amrywiaeth gyfoethog o dirweddau, yn llawn o nodweddion diddorol.
Oherwydd daearyddiaeth ein Bwrdeistref Sirol, a natur drefol ein llain arfordirol, mae dwy rhan o Lwybr o Arfordir wedi'u creu drwy Gastell-nedd Port Talbot. Er ei fod yn rhan eithaf byr o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan, mae llawer o diddordeb ac amrywiaeth ar hyd y ddau lwybr, sy'n cynnig bywyd gwyllt, caffis glan môr, hanes a golygfeydd trawiadol. Mae'r ddwy adran, er yn ddaearyddol agos iawn, yn wahanol iawn o ran cymeriad, anhawster ac yn eu nodweddion o ddiddordeb. Gallwch lawrlwytho copi o'r llwybrau Llwybr Arfordir Cymru
Am rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan swyddogol Llwybr Arfordir Cymru.
Abaty Margam i Faglan
Mae mynyddoedd uchel Feysydd Glo De Cymru yn tarfu'n sydyn ar y llain arfordirol sy'n cynnwys aneddiadau Margam, Port Talbot, Aberafan a Sandfields. Mae'r rhain yn dyrannu'n ddwfn gan afonydd Afan a Castell-nedd. Mae llwybr ucheldirol llwybr yr arfordir yn croesi'r ardal hon.
Ar hyd y llwybr 7 milltir hwn, mae llawer o olygfeydd gwych ar draws Môr Hafren, a llawer o greiriau diddorol ar hyd y ffordd. Yn enwedig adfeilion Capel y Santes Fair, a adnabyddir yn lleol fel Capel Mair, ar y bryn uwchben Abaty Sistersaidd Margam. Ar y cyfan, po agosaf y byddwch yn edrych ar y daith gerdded hon y mwyaf o berlau sy'n cael eu datgelu.
Llawrlwythiadau
Grwpiau cerdded
Mae nifer o grwpiau cerdded yn yr ardal, ac mae manylion am y rhain i'w gweld ar wefan Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon CNPT Mae'r teithiau cerdded eu hunain yn amrywio o ran dwyster, o lwybrau cymdeithasol ar lefel is, i lwybrau mynydd mwy heriol. Mae gan y grwpiau i gyd gyda arweinwyr cerdded cymwys sy'n darparu elfen ddiogelwch i bob grŵp. Mae'r grwpiau'n gefnogol iawn, yn cynnig digon o anogaeth ac maen nhw bob amser yn chwilio am aelodau newydd.
Dogfennau cerdded
Mae nifer o ddogfennau sydd ar gael sy'n ymwneud â Gerdded a'r amgylchedd o'ch cwmpas.