Cwestiynau Cyffredin Reprograffeg
Sut mae archebu?
Gallwch archebu yn bersonol, dros y ffôn neu trwy e-bost.
Oes angen trefnu apwyntiad?
Mae archebu amser i weithio ochr yn ochr â’n dylunwyr yn ffordd effeithiol iawn o gyflawni eich nodau yn gyflym ac yn gywir. Bydd rhai tasgau yn ddidrafferth a gallai galwad ffôn neu neges e-bost syml fod yn ddigon.
Beth yw'r maint mwyaf y gellir ei lamineiddio?
Mae sawl peiriant lamineiddio o bob maint ar gael gennym. Gall rhai ohonynt fod yn barod i’w defnyddio mewn mater o funudau ac mae’r rhain yn addas ar gyfer posteri a baneri hyd at 600mm o led. Ar gyfer posteri 600-1000mm o led mae gennym beiriant mwy sy’n cymryd o leiaf 45 munud i gyrraedd gwres gweithredu.
Beth yw'r maint mwyaf mae modd i chi ei argraffu?
Gallwn argraffu hyd at fwyafswm o 1m x 15m.
Faint o amser bydd fy archeb yn ei gymryd?
Gallwn gyflenwi rhai archebion tra byddwch chi’n aros. Fodd bynnag, mae rhai tasgau arbenigol (e.e. arwyddion awyr agored, arwyddion siglo) yn gallu cymryd ychydig mwy o amser o ran trefnu bod y deunyddiau a’r cyfarpar ar gael i gwblhau’r archeb. Gellir disgwyl peth oedi yn ystod ein cyfnodau prysur
Ydych chi'n cynhyrchu calendrau?
Cynigir ystod o galendrau o bob maint am bris mor isel â £1.50. Os byddwch chi’n cynllunio calendr Nadolig yna byddai’n well gennym gwblhau eich dyluniad erbyn diwedd mis Hydref. I sicrhau dosbarthiad cyn y Nadolig, rhaid i’ch archeb ein cyrraedd erbyn diwedd Tachwedd.
Oes gennych rywun all dynnu ffotograffau ar gyfer ein calendr?
Mae ein ffotograffydd, Paul Stephens, ar gael i dynnu ffotograffau calendr. Cofiwch archebu mor fuan â phosibl rhag cael eich siomi.
Os byddaf yn dylunio fy llyfryn fy hun, pa fformat sydd ei angen arnoch i'w argraffu?
Os byddwch chi’n creu eich llyfryn eich hun yn MS Word neu MS Publisher, gofalwch osod maint y dudalen i faint y llyfryn gorffenedig (h.y. tudalennau A5 ar gyfer llyfryn A5). Peidiwch â defnyddio unrhyw nodweddion datblygedig fel Booklet neu Book. Yn MS Word, defnyddiwch Toriad Tudalen (Page Break) (Mewnosod>Toriad: Toriad Tudalen) i ddechrau tudalen newydd. Bydd hyn yn caniatáu i ni weld unrhyw anghysondebau o ran fformat a all ddod i’r golwg wrth edrych ar y ddogfen ar gyfrifiadur gwahanol.
Faint mae'n costio?
I sefydliadau sydd â Chytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda ni, ni fyddwn ond yn codi am gost y deunyddiau i gyflenwi’r archeb ar ein cyfarpar. Lle bydd modd, byddwn ni’n chwilio am y dull mwyaf effeithiol o gyflenwi eich archeb er mwyn sicrhau’r pris gorau posibl i chi.
Ydych chi'n cynhyrchu adnoddau sy'n addas ar gyfer yr awyr agored?
Ar hyn o bryd cynigir arwyddion wal (2.4m x 1m ar y mwyaf), arwyddion siglo ar balmant, a baneri finyl.
Pryd mae angen archebu llyfrau print ar gyfer mis Medi?
Rydyn ni’n argraffu tua 40,000 o lyfrau bob haf. I sicrhau bod eich llyfrau’n barod erbyn mis Medi, bydd angen i ni gael eich archeb erbyn diwedd Mehefin fan bellaf.