Gwasanaeth Ymgynghoriad Llyfrgell
Cymorth Proffesiynol
Rydyn ni’n cynnig cyngor ar y canlynol:
- Ailwampio llyfrgelloedd/mannau adnoddau
- Cynllunio a dylunio llyfrgelloedd/mannau adnoddau newydd
- Dewis a chynnal stoc
- Sgiliau gwybodaeth
- Hyfforddiant i ysgolion (ADDS) ynghylch trefnu adnoddau, stoc, reprograffeg, plant a darllen, wedi’i ddarparu yn yr ysgol neu yng Nghanolfan y Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Addysg (ELRS).
- Cyngor ar y gofynion o ran cynllun/cyfarpar mannau adnoddau ysgol
- Cyngor/hyfforddiant/cymorth ynghylch systemau rheoli cyfrifiadur
Cyngor/Cymorth Ymarferol
Mae staff y Gwasanaeth ar gael i archwilio, golygu, dosbarthu a threfnu stoc yn llyfrgelloedd neu ystafelloedd dosbarth ysgolion sy’n tanysgrifio. Mae’r pecyn o ddeunyddiau sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith hwn hefyd yn gynwysedig yng nghost y tanysgrifiad.
Faint o amser bydd y gwaith yn ei gymryd?
Gall asesiad cychwynnol o’ch llyfrgell/man adnoddau ddigwydd yn gyflym. Fodd bynnag, dylid caniatáu amser i brynu silffoedd, cyfarpar a stoc. Unwaith bydd y penderfyniad i symud ymlaen wedi’i wneud, dylai’r gwaith yn y llyfrgell/man adnoddau gymryd ychydig wythnosau.
Mae modd ailwampio llyfrgelloedd/mannau adnoddau presennol yn gyflym gyda chyn lleied o amharu â phosibl. Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Addysg yn annog, ac yn gallu trefnu, ymweliadau ag ysgolion eraill i weld sut maen nhw’n ymdrin ag adnoddau.
Cyflenwyr
Mae gan y Gwasanaeth fynediad at amrywiaeth eang o gyflenwyr llyfrgelloedd/mannau adnoddau.
Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â’r safle.