Clwb Ffotograffiaeth ar ôl Ysgol
Trosolwg:
Rhaglen ar ôl ysgol sy’n para 6 wythnos ac yn darparu dealltwriaeth sylfaenol o gamerâu modern a thechnegau ffotograffiaeth.
Nifer y cyfranogwyr:
6-8 o ddisgyblion ac 1-2 aelod o staff.
Amserlen:-
Wythnos 1:
- Crynodeb o hanes ffotograffiaeth o’r Camera Obscura hyd at gamerâu ffilm mwy diweddar.
- Golwg ymarferol ar gamerâu o’r cyfnod cyn-ddigidol.
- Dealltwriaeth sylfaenol o weithrediad camera (caead/agorfa)
Wythnos 2:
- Cwis sydyn am foddau camera.
- Gofynnir i’r disgyblion gymryd hyd at 5 ffotograff â chamera cryno digidol. (10 munud)
- Trafod techneg ffotograffiaeth y “rheol traeanau” a dadansoddi’r ffotograffau a dynnwyd yn gynharach.
Wythnosau 3-6:
- Rhoddir sylw i’r pedwar arddull ffotograffiaeth sylfaenol (portread, gweithredol, tirlun a macro) gan ddefnyddio swyddogaethau gosod camerâu digidol. Bydd rhai o’r sesiynau hyn yn dibynnu ar y tywydd ac felly nid oes modd cynnig amserlen fanwl gywir ymlaen llaw.
Arddulliau ffotograffig
Portread: Portreadau o unigolion/grwpiau mewn sefyllfaoedd anffurfiol, mewn ystum benodol a/neu sefyllfaoedd â thema.
Gweithredol: Ffotograffiaeth sy’n seiliedig ar symud, gan ganolbwyntio ar chwaraeon actif a symudiad.
Tirlun: Tynnu lluniau o olygfeydd awyr agored o amgylch yr ysgol neu’r ardal leol.
Macro: Lluniau agos o eitemau pob dydd, e.e. planhigion, anifeiliaid, pensiliau, dilewyr ac ati.
Am ragor o wybodaeth Cysylltwch â Ni