Beth gallaf ei fenthyg?
Gall athrawon Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl) mewn ysgolion sydd â Chytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda’r Gwasanaeth gael benthyg yr adnoddau canlynol:
- 1 Prosiect fesul athro CALl fesul tymor (mwyafswm o 30 o eitemau)
- 4 eitem amgueddfa (realia) fesul athro CALl am hyd at 4 wythnos
- 4 Fideo/Casét/DVD fesul athro CALl am hyd at bythefnos
Yn ogystal, bydd modd i ysgolion gael benthyg llyfrgell ffuglen am flwyddyn.
Bydd ceisiadau am adnoddau’n cael eu paratoi gan ein staff profiadol a’u dosbarthu i’ch ysgol yn barod ar gyfer dechrau’r tymor*.
Bydd y Gwasanaeth yn prynu unrhyw ddeunydd priodol y bydd ysgolion yn gofyn amdanynt.
Os byddai’n well gennych ddewis eich adnoddau prosiect eich hun, beth am ddod draw i’n gweld ni?
*Ein nod yw bod yr holl geisiadau am brosiectau a ddaeth i law ar ddechrau’r tymor blaenorol yn cael eu dosbarthu yn ystod pythefnos cyntaf y tymor cyfredol. Fodd bynnag, i osgoi oedi diangen, ewch ati i gyflwyno eich ceisiadau am brosiectau cyn gynted â phosibl.