Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ceisiadau cyfredol

Disgrifiad: Canolfan Llosgi Gwastraff Bach sy'n cynnwys y pyrolysis o deiars gwastraff. Bydd allyriadau i'r awyr, dŵr, sŵn a materion eraill yn cael eu rheoli gan yr hawlen. 

Lleoliad: Gweithdai Byass, Heol y Doc, Port Talbot SA13 1RS 

Ymgeisydd: Tyregen UK Ltd.

Mae'r cyngor wedi derbyn cais am hawlen amgylcheddol ar gyfer Canolfan Llosgi Gwastraff Bach gan Tyregen UK Ltd. Mae'r cyngor wedi ystyried y cais ac wedi dod i gasgliad i wrthod yr hawlen. Amlinellwyd y rhesymau dros y penderfyniad hwn yn y ddogfen penderfyniad y gellir ei darllen trwy ddilyn y ddolen isod:

Gosodwyd copi o'r penderfyniad yn y gofrestr gyhoeddus hefyd ac mae ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus, am ddim, yn Is-adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG. Gellir gweld y penderfyniad drafft yn ystod oriau swyddfa arferol 8.30.am tan 5.00pm. (4.30 p.m. dydd Gwener) drwy apwyntiad.