Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheoli llygredd diwydiannol

Rheoli Llygredd Diwydiannol

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb dros rheoleiddio rhai gweithgareddau diwydiannol o dan Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r mathau o weithrediadau sy'n gorfod gwneud cais am drwydded. Mae'r rhan fwyaf o drwyddedau yn "Rhan B" yn caniatáu ac yn rheoleiddio allyriadau i aer yn unig. Ond mae rhai trwyddedau yn  "A2" ac yn rheoleiddio llygredd dŵr, halogiad tir, defnydd o ynni ac atal damweiniau, er bod hyn yn tueddu i fod dim ond am ychydig o safleoedd diwydiannol mawr.

Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r diwydiannau mwy neu fwy cymhleth, a elwir yn gosodiad "A1". A oes angen trwydded arnaf?

 A oes angen trwydded arnaf?

Os rhagnodir eich proses o fewn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Os yw'ch proses yn "Rhan B" neu "A2" yna mae'n rhaid i chi wneud cais i'r Cyngor hwn. Os yw'n weithgaredd "A1" yna mae'n rhaid i chi wneud cais i Adnoddau Naturiol Cymru.

Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded?

Argymhellir i chi gysylltu â ni cyn gwneud cais am drwydded gan y byddwn yn gallu eich tywys yn yr hyn a all fod yn weithdrefn gymhleth.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais isod a'u postio atom ni:

Ffurflenni rhan B

  • Cais am ganiatâd ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau (DOCX 118 KB)

    i.Id: 4235
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cais am ganiatâd ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau
    mSize: 118 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/emroj3e3/cais-am-ganiatâd-ar-gyfer-y-rhan-fwyaf-o-weithgareddau.docx

  • Cais am ganiatâd ar gyfer ail-chwistrellu cerbydau (DOCX 120 KB)

    i.Id: 4249
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cais am ganiatâd ar gyfer ail-chwistrellu cerbydau
    mSize: 120 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/mo5dctob/cais-am-ganiatâd-ar-gyfer-ail-chwistrellu-cerbydau.docx

  • Cais am ganiatâd ar gyfer gorsafoedd betrol (DOCX 112 KB)

    i.Id: 4236
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cais am ganiatâd ar gyfer gorsafoedd betrol
    mSize: 112 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/2a2bv3ux/cais-am-ganiatâd-ar-gyfer-gorsafoedd-betrol.docx

  • Cais trwyddedau am sychlanhau (DOCX 107 KB)

    i.Id: 4245
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cais trwyddedau am sychlanhau
    mSize: 107 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/vgdi4htu/cais-trwyddedau-am-sychlanhau.docx

  • Amrywiad i drwydded (DOCX 112 KB)

    i.Id: 4234
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Amrywiad i drwydded
    mSize: 112 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/ah1hbe5a/amrywiad-i-drwydded.docx

  • Trosglwyddo trwydded (DOCX 113 KB)

    i.Id: 4229
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Trosglwyddo trwydded
    mSize: 113 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/zqbdzlwa/trosglwyddo-trwydded.docx

  • ildio trwydded (DOCX 32 KB)

    i.Id: 4243
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: ildio trwydded
    mSize: 32 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/oplnudi4/ildio-trwydded.docx

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Os derbynnir eich cais fe'i gosodir ar gofrestr gyhoeddus.

Gall y cais gynnwys un neu fwy o gamau ymgynghori cyhoeddus a'n nod yw gwneud penderfyniad ar y cais mewn 3 i 4 mis yn dibynnu ar y math o gais.

Os gwrthodir eich cais neu os ydych chi'n anghytuno ag amodau'r drwydded, yna mae gennych hawl i apelio i Lywodraeth Cymru.

 Pa amodau fydd yn y drwydded?

Bydd amodau'r drwydded yn cael eu drafftio yn seiliedig ar ganllawiau'r llywodraeth a geir yn "Nodiadau Canllaw’r Broses" ac o ystyried amgylchiadau penodol eich gweithgaredd. Yn y rhan fwyaf o achosion, darperir trwyddedau drafft i weithredwyr am sylwadau fel rhan o'r broses ymgeisio. Ond ni cheir ymgynghori'n aml â gorsafoedd petrol a gweithgareddau bach eraill gyda chaniatâd "safonol" syml yn y modd hwn.

 Am ba hyd y mae'r drwydded yn para?

Unwaith y bydd eich trwydded wedi'i rhoi, bydd yn parhau i fod mewn grym hyd nes hildio gan y gweithredwr neu ei ddiddymu gan y Cyngor. Mae yna sawl rheswm pam y gallai cyngor ddiddymu trwydded. Mae'r rhain yn cynnwys: peidio â thalu ffioedd cynhaliaeth flynyddol; nad yw deiliad y drwydded bellach yn weithredwr y gweithgaredd; ni weithredwyd y gweithgaredd am amser hir ac ati. Mae'n bosibl y bydd caniatâd yn ddarostyngedig i hysbysiad atal os oes risg o lygredd difrifol i'r amgylchedd.

 Pa wybodaeth arall sydd ar gael?

Mae nifer o adnoddau ar-lein defnyddiol ar gael ar wefan Defra.

 Pwy alla i gysylltu â nhw am rhagor o wybodaeth?

Cysylltwch ag aelod o'n Hadran Iechyd yr Amgylchedd os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Ffôn: (01639) 686595

 A oes cofrestr o ddeiliaid trwyddedau?

Mae rhestr o ddeiliaid trwyddedau, safleoedd a chrynodeb o'r hyn sydd i'w gweld ar y gofrestr gyhoeddus i'w gweld isod.