Dogfen
Adleoli Ysgol Gynradd Godre’r Graig: Diweddaru’r Sefyllfa
Mae’n debygol iawn y bydd cynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu dosbarthiadau dros dro i’w defnyddio gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig yn eu hardal benodedig eu hunain o Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn cael ei gwblhau erbyn wythnos gyntaf mis Medi.
Clywodd cyfarfod diweddar o Dasglu Ysgol Gynradd Godre’r Graig y Cyngor sut y mae gweithwyr yn ymroi i weithio shifftiau 12 awr o hyd er mwyn cwblhau tasgau fel gosod ceblau data, gosod systemau trydanol a gwneud gwaith saer ar y dosbarthiadau wrth i’r contractwyr eu cyflenwi,
Cyrhaeddodd y dosbarth dros dro cyntaf ar y safle ddydd Gwener diwethaf, 16 Awst, daeth yr ail ddydd Mawrth 20 Awst, cyrhaeddodd y trydydd ddydd Iau 22 Awst, a rhoddwyd y bedwaredd uned, yr olaf, yn ei le ddydd Mawrth 27 Awst.
Cafodd y dosbarthiadau dros dro eu cyflenwi gan gwmni a leolir yn yr Alban, ar ôl i’r Cyngor chwilio hyd a lled y wlad am gontractwyr oedd yn meddu ar yr arbenigedd a’r offer i roi’r dosbarthiadau yn eu lle’n gyflym a diogel.
Cyflenwyd pŵer i’r safle gan Western Power ar ddydd Gwener 23 Awst, ac mae caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith wedi cael ei gymeradwyo.
Erbyn hyn, mae trefniadau teithio ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig (ynghyd â’r disgyblion Meithrin) wedi cael eu gwneud, a rhoddwyd gwybod i rieni mewn llythyr am y llwybrau a’r amserlenni newydd, ynghyd â lleoliadau codi a gollwng y plant.
Bydd prydau ysgol yn cael eu darparu i ddisgyblion drwy gyfrwng cyfleusterau arlwyo Ysgol Gymunedol Cwmtawe. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosib i ni allu addo darparu Clwb Brecwast yn ystod y misoedd cyntaf, ond bydd plant yn derbyn byrbryd ganol bore, ac adolygir y trefniadau hyn yn rheolaidd.
Er mwyn sicrhau fo pob trefniant yn ei le, ac y bydd disgyblion yn dychwelyd i ysgol ddiogel sy’n llawn o offer addas, gellir cadarnhau erbyn hyn y bydd yr ysgol ar agor i bob disgybl ar ddydd Llun 9 Medi. Serch hynny rhaid pwysleisio ein bod ni’n dal i wynebu rhai amodau nad ydynt o reidrwydd yn llwyr o dan ein rheolaeth. Gallai hyn effeithio ar y dyddiad targed ar gyfer agor yr ysgol i ddisgyblion. Os bydd unrhyw newid yn y dyddiad, byddwn ni’n sicrhau fod cyfathrebu’n digwydd drwy gyfrwng cyfrif Twitter yr ysgol, a’n tudalen we benodedig ni.
Os oes gan rieni neu bobl eraill a effeithir gan y trefniadau newydd hyn unrhyw gwestiynau neu broblemau, dylent gysylltu drwy gyfrwng cyfeiriad e-bost penodedig ysgol gynradd Godre’r Graig, godrergraig@npt.gov.uk. Yn ogystal, darperir diweddariadau pellach gan uwch arweinwyr Ysgol Gynradd Godre’r Graig ar eu cyfrif Twitter a’u gwefan.